Newyddion S4C

Bachgen 17 oed yn bencampwr Cymru yn ras 800m y dynion

07/07/2022

Bachgen 17 oed yn bencampwr Cymru yn ras 800m y dynion

Mae bachgen 17 oed o Ynys Môn yn bencampwr Cymru yn ras 800m y dynion.

Fe wnaeth Joseff Morgan, o Lanfairpwll, gyflawni'r gamp bythefnos yn ôl yng Nghaerdydd gan gystadlu am y tro cyntaf mewn ras broffesiynol yn erbyn dynion. 

Fe wnaeth Joseff redeg y ras mewn amser o 1 munud 57 eiliad, ond mae wedi rhedeg yr 800m yn flaenorol gydag amser o 1 munud 54 eiliad. 

Ennill yn annisgwyl

Dywedodd Joseff ei fod mewn sioc pan enillodd y ras.

"Nesh i cystadlu ar gyfer yr 800m ac yn dilyn hwnna wedyn, nesh i guro fo. O'dd o'n rwbath o'n i ddim yn disgwyl yn mynd mewn idda fo a dwi ddim yn meddwl o'dd genna fi cyntaf o gwbl yn fy meddwl. O'n i'n gobeithio top 5 ond nesh i guro fo."

Er yn bencampwr Cymru erbyn heddiw, mae rhedeg wedi bod yn ddiddordeb mawr gan Joseff ers blynyddoedd.

"Tro cynta i fi rili ddechra rhedeg a rili joio fo oedd ym mabolgampau'r ysgol gynradd.

"O'n i bob tro yn licio pellteroedd pell. O'n i ddim bob tro y person cyflymaf pan o'n i'n ifanc o ran y sprints, ond nesh i rili dechra enjoio fo ym mabolgampau'r ysgol ac o hynny, nath mam wedyn ddechra mynd â fi i rasys lleol."

Y llynedd, fe gafodd Joseff ei ddewis yn rhan o garfan datblygu cenedlaethol Cymru ar gyfer athletwyr ifanc.

Roedd ennill yn gamp fawr bersonol i Joseff ac yn annisgwyl iddo yn ogystal â'i deulu. 

"O'dd o'n gamp fawr i fi o ran cystadlu ar y lefel yna, rywbeth dwi ddim wedi ei wneud o'r blaen.

"O'dd neb o'n 'nheulu a pobl sy'n rhedeg efo fi yn disgwyl iddo fo ddigwydd."

'Trio rhedeg ras fy hun'

Er mai dyma'r ras gyntaf i Joseff gystadlu yn erbyn dynion, roedd yn awyddus i ganolbwyntio ar berfformiad ei hun yn hytrach na'i gyd-gystadleuwyr.

"Dwi'm rili yn trio ffocysu ar pwy dwi'n rasio'n erbyn, dwi jyst yn trio rhedeg ras fy hun a dwi ddim yn meddwl bod pwy 'da chi'n rhedeg yn erbyn yn neud gymaint a hynny o wahaniaeth achos 'da chi'n gallu cael pobl o safon o unrhyw oedran."

Mae Joseff yn gobeithio mynd ymlaen i astudio yn y brifysgol y flwyddyn nesaf, ac mae'n awyddus i barhau i redeg.

"Y peth pwysig i fi ydi bo' fi jyst yn mwynhau fo. Yn amlwg, dwi'n gobeithio mynd i'r brifysgol blwyddyn nesaf a 'swn i'n licio dal rhedeg ar ryw fath o safon.

"'Swn i'n licio jyst cario 'mlaen datblygu rili o ran fy rhedeg, gobeithio bod yr amseroedd dwi'n rhedeg yn dod lawr 'chydig a bo' fi jyst rili yn mwynhau o."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.