Mark Drakeford i gael ei urddo i Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol
Fe fydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cael ei urddo i'r Orsedd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst yng Ngheredigion.
Dywedodd Gorsedd Cymru fod Mr Drakeford yn cael ei anrhydeddu ar ran "holl weithwyr allweddol Cymru" yn sgil eu cyfraniad yn ystod y pandemig.
Wrth ymateb i'r gwahoddiad, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn "fraint anhygoel" i gael ei urddo ac i gynrychioli holl weithwyr allweddol Cymru.
“Fe wnaethon nhw gymaint i’n cynorthwyo ni gyd yn ystod y pandemig. Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n diolch iddyn nhw am eu gwaith arwrol yn ystod cyfnod caled iawn i bawb," meddai.
Ychwanegodd Archdderwydd Gorsedd Cymru, Myrddin ap Dafydd, fod eu cyfraniad yn ystod y pandemig wedi bod yn "aruthrol" a bod yr Orsedd am ddangos ei gwerthfawrogiad i'r rhai fu'n gweithio mor galed yn ystod y cyfnod.
Dywedodd hefyd bod hyn yn gyfle i ddangos gwerthfawrogiad at yr hyn wnaeth y Prif Weinidog ei hun yn ystod y pandemig.
"Wrth groesawu’r Prif Weinidog i’n Gorsedd, byddwn yn diolch iddo am ei arweiniad urddasol a gofalus drwy flynyddoedd anodd COVID-19 a’r cyfnodau clo, gan dorri llwybr addas i anghenion a phryderon pobl ein gwlad.”
Fe fydd Mark Drakeford yn cael ei urddo yn ystod seremoni ar faes Eisteddfod Tregaron ar 5 Awst.
Gallwch weld y rhestr o'r holl bobl a fydd yn derbyn anrhydedd yn ystod y seremoni yma.