Newyddion S4C

Covid-19 wedi bod yn 'her ofnadwy' wrth i Eisteddfod Llangollen ddychwelyd

05/07/2022

Covid-19 wedi bod yn 'her ofnadwy' wrth i Eisteddfod Llangollen ddychwelyd

Bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dychwelyd ddydd Iau ar ôl gorfod gohirio am ddwy flynedd yn sgil y pandemig. 

Bydd yr ŵyl yn dathlu ei phen-blwydd yn 75 oed eleni, a bydd cystadleuwyr yn teithio o bob cwr o'r byd i Langollen i fod yn rhan o'r dathliadau. 

Er bod yr Eisteddfod wedi cael ei chynnal yn rhithiol y llynedd, yn ôl Cadeirydd yr Eisteddfod, Dr Rhys Davies, mae gweld yr ŵyl yn dychwelyd wyneb yn wyneb unwaith yn rhagor yn galonogol iawn.

"Oedd yr Eisteddfod digidol yn iawn, ond mae Eisteddfod yn fyw yn llawer well wrth gwrs."

Covid yn parhau i achosi problemau

Yn ôl Dr Davies, roedd Covid yn "her ofnadwy" yn ystod seibiant yr ŵyl, ac mae'n parhau i achosi problemau.

"Dyna pam 'da ni wedi bod yn ofalus iawn gyda trefniadau. Dyna un rheswm pam 'da ni ddim wedi cael y gorymdaith achos mae'n anodd i drefnu petha fel 'na pan mae Covid yn mynd rownd. 

"Wrth gwrs, mae Covid yn achosi problemau rwan. Ma' 'na rai o staff gyda Covid yma ac mae nhw'n aros adref."

Mae Eisteddfod Llangollen yn adnabyddus am fod yn ŵyl ryngwladol. Dywedodd Dr Davies bod yna "lai yn dod o dramor eleni" ond bod llawer yn parhau i gystadlu, yn Llangollen yn ogystal ag ar y wê.

Mae'r streiciau rheilffyrdd hefyd yn rywbeth sydd wedi peri gofid i'r trefnwyr eleni, ac mae Dr Davies yn gobeithio na fydd hyn yn effeithio ar eu trefniadau munud olaf nhw. 

"Mae 'na lawer o bobl yn dod o'r Deyrnas Unedig a gobeithio fydd teithio yn iawn. Does dim streiciau ar y rheilffordd ar hyn o bryd."

Bydd yr Eisteddfod yn dechrau ddydd Iau ac yn parhau tan ddydd Sul, ac er ei bod hi'n fyrrach eleni, bydd cystadlaethau traddodiadol yr ŵyl, o Gôr y Byd i Lais Rhynglwadol y Dyfodol Pendine, yn parhau yn ganolog i'r cystadlu. 

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, eisioes wedi dangos ei gefnogaeth at yr Eisteddfod.

"Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn eicon gwirioneddol o dirwedd ddiwylliannol Gymreig, ac mae’n arbennig o gyffrous gallu croesawu mynychwyr yn bersonol yn ôl i’r digwyddiad ac yn ôl i Gymru eleni."

Llun: Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.