'Disgyblaeth’ y tîm angen gwella meddai chwaraewyr Cymru
'Disgyblaeth’ y tîm angen gwella meddai chwaraewyr Cymru
Mae angen gwella disgyblaeth tîm rygbi Cymru meddai'r chwaraewyr yn dilyn y fuddugoliaeth yn yr eiliad olaf yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn.
Fe enillodd De Affrica o 32-29 gyda chic ola’r gêm yn Pretoria ar ôl i Gymru ddod yn gyfartal gyda chais hwyr i’r bachwr Dewi Lake.
Roedd Cymru lawr i 12 dyn yn y munudau olaf ar ôl derbyn tri cherdyn melyn.
Dywedodd Dewi Lake, ddaeth ymlaen fel eilydd i sgorio ei gais, fod yn rhaid iddyn nhw wella eu disgyblaeth yn erbyn tîm mor gorfforol â De Affrica.
Dywedodd: "Does dim llawer ni angen newid fel tîm.
“Wrth gwrs y discipline yw'r un fawr rwy'n credu bydd pawb yn cytuno gyda hwnna.
“Chi methu rhoi nifer o penalties i tîm fel De Affrica, hwnna yw beth mae nhw'n adeiladu i gêm bant o. Penalty. Kick to the corner. Driving maul. Penalty, scrum. Penalty, try. Rywbeth fel 'na.
“Ma'r tîm fel hyn sy'n adeiladu i gêm ar gael i pac fewn i'r gêm o sgarmes symudol, chi ddim yn gallu rhoi'r opportunities fel 'na i tîm fel hyn. So hwnna yw'r peth ma' raid ni gweithio arno."
Llun: Asiantaeth Huw Evans