Newyddion S4C

Miloedd mewn gorymdaith dros annibyniaeth yn Wrecsam

02/07/2022

Miloedd mewn gorymdaith dros annibyniaeth yn Wrecsam

Fe wnaeth rhai miloedd o bobl ymgynnull yn Wrecsam brynhawn dydd Sadwrn mewn gorymdaith dros annibyniaeth.

Yn ôl y trefnwyr roedd rhwng 6,000 ag 8,000 o bobl yn y digwyddiad ond nid yw'r ffigwr wedi ei gadarnhau yn swyddogol.

Ymysg y siaradwyr yn y digwyddiad oedd Dafydd Iwan, Tudur Owen, yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd a'r bardd Evrah Rose.

Roedd y rali i fod i gael ei chynnal ddwy flynedd yn ôl ond fe gafodd ei gohirio o achos y pandemig coronafeirws. 

Fe gynhaliwyd ralïau blaenorol yn 2019 yng Nghaerdydd, Caernarfon a Merthyr.

Dywedodd Kieran Thomas, un o drefnwyr yr orymdaith:

"Roedden ni mor siomedig pan amharodd Covid ar ein cynlluniau 2 flynedd yn ôl, ond rydyn ni wrth ein bodd bod pobl yn credu mor gryf yn yr achos fel eu bod wedi teithio o bob rhan o Gymru i gyrraedd yma heddiw.

"Mae pobl eisiau Cymru well a gallant weld nad yw'r wladwriaeth Brydeinig aneffeithiol yn mynd i'w darparu. Mae’r orymdaith hon wedi bod yn hwb economaidd mawr i Wrecsam ac mae’r misoedd o waith caled wedi talu ar ei ganfed.”

Yn gynharach yn yr wythnos roedd amheuaeth os byddai'r orymdaith yn cael dilyn y llwybr oedd wedi ei drefnu, wedi i Gyngor Wrecsam wrthwynebu gadael i'r rali groesi tir oedd yn berchen i'r awdurdod.

Yn dilyn tro pedol, fe roddwyd caniatâd i'r ymgyrchwyr ddechrau'r orymdaith ar dir Llwyn isaf.

Roedd y cyngor wedi dadlau'n wreiddiol fod y rali'n bwnc gwleidyddol ac nad oedd modd i bobl ymgasglu ar eu tir.

Yn ôl pôl piniwn gan YouGov ym mis Mawrth eleni, roedd 21% o'r rhai gafodd eu holi yn cefnogi annibyniaeth gyda 53% o bobl yn gwrthwynebu. Cafodd 1086 o bobl eu holi ar gyfer yr arolwg ar ddiwedd mis Mawrth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.