Rhagflas: Grand Prix Formula 1 Silverstone 2022
Rhagflas: Grand Prix Formula 1 Silverstone 2022
Bydd Grand Prix Silverstone yn dychwelyd dros y penwythnos ym Mhencampwriaeth Formula 1.
Gyda Max Verstappen o dîm Red Bull ar dop ei gêm wrth iddo anelu i amddiffyn ei deitl fel Pencampwr Formula 1, bydd y bygythiad gan Ferrari, sydd wedi ennill chwe ras yn olynol, yn sicr o fod yn her iddo.
Mae'r gyrrwr Ferrari, Charles Leclerc, yn fygythiad i Verstappen yn y ras wrth iddo geisio lleihau'r bwlch ar frig y tabl.
Mantais gartref i Mercedes?
Mae tîm Mercedes wedi uwchraddio eu ceir ar gyfer y ras ddydd Sul, ac yn gobeithio y bydd trac llyfn Silverstone yn fanteisiol yn ogystal â mantais gartref a'r gefnogaeth tuag at eu gyrrwyr, George Russell a Lewis Hamilton.
Pe bai Lewis Hamilton yn cyrraedd y tri uchaf, byddai'n torri'r record am y gyrrwr sydd wedi cyrraedd y podiwm fwyaf ar yr un trac.
Bydd Hamilton yn ceisio symud ymlaen yn dilyn wythnos anodd yn sgil sylwadau Nelson Piquet amdano, a bydd y pencampwr F1 7 gwaith yn awyddus i wneud ei siarad ar y trac ddydd Sul.
Bydd Lando Morris yn ceisio parhau i fod yn llygedyn o obaith i dîm McLaren wrth fod yr unig yrrwr sydd ddim yn nhimau Red Bull, Ferrari a Mercedes, i gyrraedd y tri uchaf mewn ras hyd yma eleni.
'Agos iawn' rhwng Leclerc a Verstappen
Mae Ifan Huw Jones wedi dilyn Fformiwla 1 ers yn bump oed, ac yn credu y bydd hi'n ras rhwng dau yrrwr.
"Ma'n agos iawn rhwng Charles Leclerc a Max Verstappen. Ma' Charles Leclerc wedi bod bron yn berffaith yn ddiweddar ond ma' Verstappen 'di ennill pump allan o chwech o'r rasys dwytha.
"Dwi'n meddwl ma' rhaid meddwl am Mercedes hefyd. Mae Mercedes yn dod â newidiadau i'w car a ma'r trac yma yn debyg iawn i Barcelona, lle o'dd Russell a Hamilton yn enwedig yn gryf iawn yn y ras dros qualifying felly efallai fyddan nhw'n gallu o leiaf cystadlu am podium."
Mae Ifan wedi bod i Silverstone dair gwaith o'r blaen, a bydd yn mynd yno eto ddydd Sul.
Yn gefnogwr brwd o Formula 1, fe wnaeth Ifan gychwyn cyfrif Instagram yn y Gymraeg o'r enw @f1dyddiol er mwyn darparu gwybodaeth ddyddiol am y bencampwriaeth.
"Nes i neud y cyfrif yn Gymraeg oherwydd y diffyg cyfrifon Formula 1 ar y wê. Nath hynna fy ysgogi i ddod â gwybodaeth i pobl Cymraeg.
"Ond hefyd, y prif bwrpas dwi'n neud o ydi allan o fwynhâd ac i allu sôn am Formula 1 ag i bobl eraill cael gweld be dwi'n feddwl."
Llun: Silverstone