Newyddion S4C

Scott Mills a Chris Stark i adael Radio 1

01/07/2022
Scott Mills a Chris Stark

Mae dau o gyflwynwyr Radio 1 wedi cyhoeddi eu bod yn gadael yr orsaf.

Mae Mills wedi cyflwyno amryw o raglenni ar yr orsaf ers 1998 a Stark wedi cyflwyno yn rheolaidd ers 2012.

Bydd y ddau yn gadael yn ddiweddarach yn yr haf ac mae disgwyl y bydd cyhoeddiad am eu holynydd yn ystod eu rhaglen ddydd Mawrth.

Mae BBC Radio 1 wedi diolch i'r ddau "am bopeth" gan ychwanegu y bydd colled ar eu hôl.

Fe fydd Mills yn symud i Radio 2  gyflwyno rhaglen rhwng 2-4 wedi i Steve Wright gyhoeddi ei ymadawiad o'r rhaglen ddyddiol gyda'r prynhawn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.