Ofcom yn ystyried cynyddu nifer a hyd hysbysebion teledu

Mae'n bosib y bydd rhaid i wylwyr teledu dreulio mwy o'u hamser yn gwylio hysbysebion wrth i Ofcom ystyried newid y rheolau.
Mae'r bwrdd rheoli yn ystyried codi cyfyngiadau ar hysbysebion, gan alluogi sianeli i ddarlledu mwy o hysbysebion am gyfnodau hirach.
Ar hyn o bryd mae'r prif sianeli fel ITV, Channel 4 a Channel 5 yn cael darlledu saith munud o hysbysebion am bob awr o deledu. Mae gan sianeli eraill yr hawl i ddarlledu hyd at naw munud ymhob awr.
Yn ôl Ofcom, mae angen newidiadau wedi i arferion gwylio teledu newid yn sgil y twf mewn gwasanaethau ffrydio fel Netflix a Disney+.
Darllenwch fwy yma.