Newyddion S4C

Hunllefau i aelod o rheithgor Logan Mwangi

Newyddion S4C 30/06/2022

Hunllefau i aelod o rheithgor Logan Mwangi

Mae aelod o rheithgor glywodd dystiolaeth am lofruddiaeth Logan Mwangi yn dweud ei bod hi wedi dioddef trawma difrifol a hunllefau, a'i bod hi wedi methu dychwelyd i'w gwaith.

Yn Llys y Goron Caerdydd, cafodd mam Logan, ei lys-dad a bachgen 14 oed eu carcharu am oes am ei lofruddiaeth. 

Droeon bu'n rhaid atal yr achos am bod y dystiolaeth yn achosi gymaint o loes i Dr Joselyn Sellen ac aelodau eraill o'r rheithgor.

Mae Dr Sellen nawr yn galw am fwy o gefnogaeth, gan gynnwys therapi, i aelodau rheithgor mewn achosion trawmatig.

Mae Gwasaneth Llysoedd a Thribiwnlys Ei Mawrhydu'n dweud eu bod nhw'n ymwybodol o bwysigrwydd lles aelodau'r rheithgor.

'Aros gyda fi am byth'

Seicolegydd yw gwaith Dr Sellen.

Mae'n dweud mai'r dystiolaeth anoddaf iddi hi a'r aelodau eraill o'r rheithgor i wrando arno oedd gan bediatrydd fu'n disgrifio yr hyn fyddai Logan wedi ei ddioddef yn ystod ei oriau olaf.

"Roedd hyn yn angrhedadwy o anodd", meddai.

"Oherwydd mae eich dychymyg yn mynd â chi i lefydd tywyll iawn pan 'ych chi'n gwrando ar y math yna o dystiolaeth.  Mae'n achosi gymaint o loes".

Image
Dr Joeslyn Sellen
Roedd bod ar y rheithgor yn brofiad anodd i Dr Joselyn Sellen.

Dywedodd hefyd na fydd hi byth yn gallu anghofio rhai o'r delweddau welodd hi yn y llys, yn enwedig fideo o gorff-gamera y plismon ddaeth o hyd i Logan.

"Fe fydd hwnnw'n aros gyda fi am byth," meddai. 

"Gwnaeth yr achos gymryd drosodd fy mywyd, fe wnes i ddioddef trawma llwyr".

Mae'n dweud iddi ddioddef hunllefau cyson, gan fethu cysgu, a gor-ymateb i'r pethau lleiaf.

'Dim cymorth proffesiynol'

Yn unol â'r drefn dyw aelodau rheithgor ddim i fod i drafod yr achos gydag unrhyw un arall oni bai am ei gilydd - hyd nes iddo ddod i ben.

Dyw nhw chwaith ddim i fod i rannu'r hyn gafodd ei drafod gan y rheithgor yn ystod y cyfnod y buodd y deuddeg yn ystyried.

Roedd ei merch bymtheg oed yn ceisio ei chysuro meddai heb wybod yn iawn pam ei bod hi'n crio gymaint.

"Ar ôl gollwng fy merch yn yr ysgol fe fyddai ton o emosiwn yn fy nharo," meddai. 

"Fe fyddwn ni'n llefain hyd nes i fi gyrraedd y llys. Fe fyddwn ni'n eistedd yn y car yn meddwl gyda fy holl enaid nad oeddwn i am fynd i mewn, ond roeddwn i'n gwybod bod gen i ddyletswydd.

"Doedd yna ddim cymorth proffesiynol ar gael drwy'r llys," ychwanegodd.

Image
S4C
Cafodd teyrngedau lu eu gadael er cof am Logan gan aelodau'r gymuned.

Roedd y tywyswyr, staff diogelwch, y barnwr, pawb yn y llys meddai'n ffantastig, ond doedden nhw ddim wedi'u hyfforddi yn nhermau therapi trawma.

Cysylltu â'r Samariaid neu gyda'i meddyg teulu oedd cyngor y Llys.  Dywedodd iddi gael sgyrsiau "byr iawn" gyda'r ddau.

Mae Dr Sellen yn galw am therapydd trawma i fod ar gael mewn achosion lle mae 'na dystiolaeth dorcalonnus.

Dywedodd Llefarydd ar ran Gwasaneth Llysoedd a Thribiwnlys Ei Mawrhydu fod "gwasanethau ar reithgor yn un o'r dyletswyddau dinesig mwyaf pwysig y gall unrhyw un ei wneud ac ry' ni'n cydnabod pwysigrwydd lles drwy gydol y broses".

"Ymhob achos mae'r barnwr yn ceisio sicrhau cyfiawnder heb achosi pryder gormodol i unrhyw aelod o'r rheithgor.

"Mae hyn yn gallu cynnwys rhybudd am dystiolaeth all beri loes yngyd â chynnig ystod o gefnogaeth er engrhaifft gan feddygon teulu neu'r Samariaid".

Ar ddiwedd achos Logan Mwangi fe ddiolchodd y barnwr Mrs Ustus Jefford i'r rheithgor am wasanaeth cyhoeddus eithriadol, gan ganiatáu iddyn nhw esgusodi eu hunain o'r dyletswydd eto.

Dyw Dr Sellen ddim am ail fyw'r profiad.

"Hwn oedd fy hunllef gwaetha' i fod ynghlwm ag achos oedd mor drawmatig," dywedodd. 

"Fydde ni ddim am wasanaethu ar reithgor eto, yn enwedig gan nad oes cefnogaeth i reithwyr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.