Newyddion S4C

Twristiaeth gynaliadwy: Parc Cenedlaethol Eryri 'heb bŵer na chapasiti'

01/07/2022
Yr Wyddfa - Llun Hefin Owen

Mae adroddiad newydd yn dweud nad oes gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri y “pŵer na’r capasiti” i reoli newidiadau sylweddol sydd eu hangen i seilwaith yr ardal er mwyn helpu i gyflawni twristiaeth gynaliadwy.

Bwriad yr adroddiad oedd ceisio darganfod os oedd yr Awdurdod yn gwneud popeth y gallai i reoli twristiaeth gynaliadwy’n effeithiol.

Gan fod Awdurdod y Parc yn gyfrifol am warchod harddwch, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal “nid yw gwneud dim byd yn opsiwn” medd yr adroddiad gan swyddfa Archwilio Cymru.

Dywedodd yr Awdurdod wrth Newyddion S4C na fyddai'n gwneud sylw am yr adroddiad ar hyn o bryd gan fod swyddogion yn aros am adroddiad ehangach yr archwilwyr ar barciau cenedlaethol Cymru.

Dywed yr archwilwyr fod gan yr Awdurdod bartneriaethau sydd wedi ennill eu plwyf i fynd i’r afael â thwristiaeth gynaliadwy, a’i fod yn “adeiladu ar ddiwylliant cadarn o waith partneriaeth i siapio ac i wireddu ei uchelgeisiau o ran twristiaeth gynaliadwy.”

Er hyn, nid oedd yr Awdurdod wedi “diffinio’i weledigaeth yn glir hyd yma, ac mae hynny’n peri iddi fod yn anodd iddo ddangos effaith ei waith”.

Ychwanegodd yr adroddiad bod gan yr Awdurdod fwy o waith i’w wneud i gyfathrebu’n effeithiol i reoli effaith twristiaeth, “o ystyried y lefelau bodlonrwydd isel a fynegwyd gan fusnesau twristiaeth.

"Ychydig iawn o fusnesau twristiaeth sy’n credu bod yr Awdurdod yn mynd ati’n effeithiol i hyrwyddo ac i fynegi pwysigrwydd twristiaeth gynaliadwy.”

Heriau'r pandemig

Daw’r adroddiad mewn cyfnod o heriau sylweddol i Barc Cenedlaethol Eryri wrth i ymwelwyr heidio yno yn ystod ac yn dilyn y cyfnodau clo. 

Mae cymunedau o fewn y Parc wedi gweld pwysau cynyddol ar wasanaethau a chynnydd mewn trafnidiaeth dros gyfnod y pandemig.

Image
Parc Cenedlaethol Eryri

Pwysleisiodd awduron yr adroddiad nad oedd yr heriau yn unigryw i'r Awdurdod yn Eryri’n unig. “Yn ystod ein hadolygiad o dwristiaeth gynaliadwy, canfuom rai materion cyffredin sy’n destun pryder i awdurdodau pob un o’r tri pharc cenedlaethol.”

Dywed yr adroddiad fod swyddogion y Parc yn dangos “dealltwriaeth dda o’r angen i ymgysylltu ag ymwelwyr cyn gynted â phosibl i roi’r siawns orau iddo lwyddo i sicrhau eu bod yn ymddwyn mewn ffordd sy’n parchu’r ardal pan fyddant yn ymweld â hi.

“Ar hyn o bryd, mae’r Awdurdod yn defnyddio adnoddau i fynd i’r afael â thwristiaeth gynaliadwy drwy ganolbwyntio ar gyfuniad o fesurau ataliol ac ymatebol. Mae wedi buddsoddi mewn swyddi i bwyso a mesur ffyrdd o fynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd economi ymwelwyr sydd, yn ei dyb ef, yn gynyddol anghynaliadwy.

“Yn y cyfamser, rhaid iddo hefyd barhau i liniaru effeithiau tymor byr y cynnydd yn y pwysau gan ymwelwyr, ac ymateb i’r effeithiau hynny.”

Llun: Hefin Owen

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.