Newyddion S4C

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ‘troi cefn’ ar denantiaid gyda bwydlen fegan

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ‘troi cefn’ ar denantiaid gyda bwydlen fegan

Mae cyn lywydd un o undebau ffermwyr Cymru wedi dweud bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn “troi cefn” ar eu tenantiaid gan “wthio” feganiaeth.

Bwriad yr elusen yw gwneud 50% o’r bwyd yn ei chaffis yn fegan a llysieuol fel rhan o ymrwymiad i gyrraedd sero net erbyn 2030.

Byddai hynny yn golygu bwyd sydd ddim yn gig nac yn gynnyrch llaeth. Mae’r ymddiriedolaeth yn gwerthu £100m o fwyd yn eu bwytai ledled y DU.

Mae Glyn Roberts, sy’n gyn lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, a’i ferch Beca Glyn yn denantiaid i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ysbyty Ifan yn Sir Conwy.

Dywedodd wrth raglen Ffermio nad oedd y cynnig “yn gwneud synnwyr o gwbl”.

“Dwi’n poeni bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn hybu feganiaeth er eu bod nhw’n dibynnu ar y diwydiant amaeth i fod yn gynaliadwy iddyn nhw a ni,” meddai.

”Bodolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ydy edrych ar ôl hanes, treftadaeth a harddwch ardal.

“Os ydyn nhw’n hybu feganiaeth sut maen nhw’n gallu cadw yn gynaliadwy ein treftadaeth, iaith, harddwch ardal, pobol yn byw yng nghefn gwlad, pobl yn cyfrannu at yr economi yng nghefn gwlad.

“A hynny os ydyn nhw ddim yn byta ein cynnyrch ein hunain?"

'Truenus'

Dywedodd Glyn Roberts  bod gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyfrifoldeb at eu tenantiaid.

“Da chi’n mynd i golli'r hanes, da chi’n mynd i golli'r bobl, da chi'n mynd i golli harddwch cefn gwlad," meddai.

"Amaethyddiaeth sydd wedi cadw'r pethau sy’n bwysig i’r ymddiriedolaeth ac maen nhw wedi troi cefn ar hynny a gwerthu ni lawr ffordd.

“I mi mae hynny’n druenus iawn.”

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth Ffermio: “Byddwn yn cadw cynnyrch llaeth, wyau a chig ar y fwydlen, ac yn parhau i gydweithio yn agos â ffermwyr.

“Rydym am i’n caffis fod yn fwy cynaliadwy ac eisiau parhau i gynnig amrywiaeth ardderchog o fwyd, gan fodloni dewisiadau newidiol ein hymwelwyr yr un pryd.

“Rydym yn cefnogi’r cynnig hwn a gyflwynwyd gan ein haelodau. Mae tua dwy ran o bump o’n bwydlen yn blanhigol ar hyn o bryd, a gallwn gynyddu hynny i hanner y fwydlen dros y ddwy flynedd nesaf.”

Bydd Ffermio ymlaen am 21.00 ddydd Llun 21 Hydref ac ar gael ar iPlayer a S4C Clic.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.