JK Rowling wedi gwrthod mynd i Dŷ'r Arglwyddi
Mae'r awdures JK Rowling wedi datgelu ei bod wedi cael cynnig i gael ei dyrchafu i'r Tŷ'r Arglwyddi ddwywaith ond ei bod wedi gwrthod.
Daw ei sylwadau ar ôl i'r gwleidydd Ceidwadol Kemi Badenoch ddweud y byddai yn hoffi urddo Rowling am ei safbwynt dadleuol ar faterion trawsrywedd.
Ond ar y cyfrwng X dywedodd JK Rowling ei bod wedi cael cynnig ei hurddo unwaith gan y blaid Lafur ac unwaith gan y Ceidwadwyr a'i bod wedi gwrthod. Fyddai hi ddim eisiau bod yn rhan o'r Tŷ'r Arglwyddi pe byddai yn cael trydydd cynnig chwaith meddai.
Mae'r rhan fwyaf o'r aelodau sydd yn Nhŷ'r Arglwyddi yn cael ei apwyntio gan y teulu brenhinol ar ôl iddynt gael eu hargymell gan y Prif Weinidog.
Fe wnaeth Kemi Badenoch, sydd dal yn y ras i fod yr arweinydd nesaf ar gyfer y blaid Geidwadol, ganmol Rowling mewn cyfweliad gyda Talk Talk. Dywedodd bod y ddwy ohonynt yn credu y dylai menywod gael eu hamddiffyn ar sail y rhyw maent yn cael eu geni ac nid sut y maent yn diffinio eu hunain o safbwynt rhyw.