Sir Benfro: Arestio dyn wedi i ddyn ifanc ddioddef anafiadau difrifol
21/10/2024
Mae dyn wedi’i arestio wedi i ddyn 20 oed ddioddef anafiadau i’w ben all newid ei fywyd yn Sir Benfro.
Fe gafodd dyn 35 oed ei arestio ar amheuaeth o ymosod gan achosi niwed corfforol difrifol wedi i’r heddlu apelio am wybodaeth yn dilyn yr ymosodiad yn Abergwaun ddydd Sul.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i ymateb i "ymosodiad difrifol" yn Sgwâr y Farchnad tua 02.50 bore dydd Sul.
Mae’r dyn 20 oed yn parhau yn yr ysbyty gyda “sawl anaf” i’w ben all newid ei fywyd.
Mae’r dyn 35 oed a gafodd ei arestio yn parhau yn y ddalfa, meddai’r llu.