Newyddion S4C

'Nid chi yw ein Brenin' medd gwleidydd yn Awstralia wrth Charles

'Nid chi yw ein Brenin' medd gwleidydd yn Awstralia wrth Charles

“Nid chi yw ein Brenin” oedd y geiriau y clywodd y Brenin Charles wedi iddo orffen araith yn Senedd Awstralia ar ail ddiwrnod ei daith swyddogol yno. 

Fe wnaeth y seneddwr annibynnol Lidia Thorpe dorri ar draws y seremoni gan weiddi ar y Brenin am tua munud cyn cael ei gorfodi oddi yno gan swyddogion diogelwch. 

Roedd y Brenin ar fin mynd yn ôl i eistedd wrth ymyl ei wraig, y Frenhines Camilla pan ddechreuodd Ms Thorpe weiddi arno. 

Fe wnaeth Ms Thorpe honni bod y teulu brenhinol yn euog o hil-laddiad “ein pobl". 

“Nid eich tir chi yw hwn, nid chi yw ein Brenin,” meddai. 

Daeth y seremoni i ben ac fe aeth y Brenin a’r Frenhines y tu allan i gyfarfod ag aelodau’r cyhoedd oedd yn aros y tu allan i’w cyfarch.

Mae Lidia Thorpe yn wleidydd brodorol o Victoria ac yn credu bod angen cytundeb rhwng llywodraeth Awstralia a’r bobl frodorol. 

Awstralia yw’r unig gyn-drefedigaeth Brydeinig heb gytundeb o’r fath ac mae nifer o bobl frodorol yn dweud nad ydyn nhw erioed wedi ildio eu sofraniaeth na thir i'r Goron.

Proffil uchel 

Mae Awstralia yn rhan o’r Gymanwlad gan olygu mai’r Brenin Charles yw pennaeth y wladwriaeth. 

Yn ôl Andy Bell, sy'n newyddiadurwr yn Awstralia, mae Lidia Thorpe yn enw cyfarwydd yn y wlad.

"Mae ganddi dipyn o broffil fel ymgyrchwraig ac mae wedi ychwanegu at y proffil hwnnw heddiw ma' " meddai ar Radio Cymru.

Dywedodd ei bod yn gwybod sut i ddenu sylw ac y byddai yn disgwyl iddi ymddangos ar raglenni teledu a radio yn ystod y dydd.

Ychwanegodd bod ei phrotest yn ystod y seremoni yn golygu bod y pwnc yn ôl ar yr agenda.

"Mae 'na sôn am weriniaeth byth a hefyd ond ar ôl methiant y refferendwm i roi ryw fath o lais cyfansoddiadol i'r bobl frodorol, falle bydd yr hyn sydd newydd ddigwydd yn y senedd-dy yma yn Canberra, falle bydd hynny yn codi y stori unwaith yn rhagor," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.