Newyddion S4C

Heddlu'r Gogledd yn cyfaddef methiannau wrth ymchwilio i fenyw ar goll

Y Byd ar Bedwar

Heddlu'r Gogledd yn cyfaddef methiannau wrth ymchwilio i fenyw ar goll

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ail-ymddiheuro i deulu dynes sydd ar goll am fethiannau wrth ymchwilio i’r achos.

Fe ddiflannodd Catrin Maguire o Gaergybi, oedd yn 22 ar y pryd, ar 15 Tachwedd 2021. 

Yn ôl ei thad, Gerry Maguire, roedd agwedd yr heddlu wedi “niweidio’r teulu’n emosiynol” a bod eu hymdrech i ymchwilio i’r achos “ddim digon da”. 

“Fe wnaethon nhw ychwanegu poen a phryder ofnadwy i ni fel teulu,” meddai wrth raglen Y Byd ar Bedwar.

“Dy’n ni ddim yn gallu symud ymlaen oherwydd does dim atebion. Mae’r dirgelwch yn waeth na galar."

Mewn ymateb, dywedodd Gareth Evans, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw am “ail-ymddiheuro i deulu Catrin Maguire” a’u bod “wedi dysgu o achosion y gorffennol.”

Fis nesa, bydd hi’n dair blynedd ers i Catrin gael ei gweld, pan deithiodd ar drên o Fangor i Gaergybi gyda thocyn dychwelyd.

Cafodd Catrin ei gweld sawl gwaith ar gamerâu CCTV yn cerdded trwy Gaergybi i gyfeiriad Ynys Lawd, lle gwelwyd hi gan lygad-dystion yn y prynhawn. Roedd hi’n gwisgo cot ddu ac yn cario bag lliw golau.

Y noson honno, ar ôl iddi fethu â ffonio’i rhieni, fe ddywedodd ei thad wrth yr awdurdodau ei bod hi ar goll.

“Mae fy stumog i’n dal i droi wrth feddwl am y noson honno, a meddwl ‘be ddigwyddodd?’.”

“Mae hi wedi diflannu heb unrhyw gliwiau nac unrhyw atebion.”

Image
Gerry Maguire, tad Catrin Maguire. Llun: Y Byd ar Bedwar
Gerry Maguire, tad Catrin Maguire (Llun: Y Byd ar Bedwar)

Bu timoedd chwilio yn ceisio dod o hyd iddi, ond ofer oedd yr ymdrechion.

Er hyn, mae’r teulu’n anhapus gydag ymdrech ac agwedd yr heddlu yn y diwrnodau cynnar wrth ymateb i’r achos. 

“Doedd gennym ni ddim unrhyw bwynt cyswllt gyda’r heddlu. Roedden nhw am i ni ffonio 101 am unrhyw ddiweddariadau ar yr achos.”

Roedd y teulu wedi siarad ag 14 o swyddogion gwahanol yn ystod yr ymchwiliad, oedd yn golygu ail-fyw’r boen, yn ôl Gerry.

“Ro’n i’n gorfod egluro’r un peth o hyd i wahanol swyddogion gan nad oedd cyfathrebu rhyngddyn nhw.”

Ar bedwerydd diwrnod yr ymchwiliad, cafodd Gerry alwad ffôn wrth yr heddlu, yn dweud mai’r ddamcaniaeth oedd bod Catrin wedi marw drwy hunanladdiad. Ar achlysur arall, mae Gerry yn honni fod swyddog wedi dod i’r tŷ a disgrifio i’r teulu beth sy’n digwydd i gyrff sydd wedi boddi.

“Mae hynny wedi achosi creithiau emosiynol i fi a fy ngwraig am byth. Roeddwn i wedi fy ypsetio, ac roedd fy ngwraig yn crio.”

Ym mis Chwefror 2022, ysgrifennodd Gerry at Swyddfa annibynnol ymddygiad yr heddlu  (IOPC) yn cwyno am ymchwiliad a thriniaeth Heddlu Gogledd Cymru i’r achos. Cafodd y gwyn ei chyfeirio’n ôl at Heddlu Gogledd Cymru i ymchwilio’n fewnol.

Roedd canlyniadau’r ymchwiliad hwnnw gan y llu yn cyfaddef bod 6 allan o’r 7 o gwynion gan y teulu yn eu herbyn yn annerbyniol. Roedd tri o'r cwynion yna yn ymwneud ag agwedd amhroffesiynol ac amharchus gan swyddogion yr heddlu.

Image
Tony Haigh. Llun: Y Byd ar Bedwar
Tony Haigh (Llun: Y Byd ar Bedwar)

Teulu arall wnaeth gwyno’n swyddogol i Heddlu Gogledd Cymru wedi i rywun fynd ar goll oedd teulu Tony Haigh, hefyd o Gaergybi.

Diflannodd y tad a thaid, oedd yn 49 oed ar y pryd, ar y 23ain o Chwefror 2018.

Mae ei fab, Zack Haigh, yn dweud bod methiannau tebyg rhwng eu hachos nhw ag achos Catrin, a’u bod wedi’u siomi.

“Mae camgymeriadau yn achos fy nhad a dwi’n gweld camgymeriadau tebyg [yn achos Catrin] ac mae’n warthus."

Image
Llun: Y Byd ar Bedwar
Llun: Y Byd ar Bedwar

Yn dilyn adolygiad o’i hachos gan Heddlu Gogledd Cymru, gwnaeth y llu gyfaddef bod dau allan o bump o gwynion y teulu yn eu herbyn yn annerbyniol. Roedd y rhain yn cynnwys diffyg cyfathrebu a dim swyddog cyswllt penodol.

“Dwi’n teimlo bod nhw [yr heddlu] wedi gadael fi lawr, fy nheulu i lawr ac yn enwedig fy nhad i lawr."

Mewn ymateb, dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, Gareth Evans, eu bod nhw’n cydnabod pa mor anodd yw hi i deuluoedd sydd â phobl sy’n mynd ar goll.

Dywedodd bod yna "filoedd o bobl yn mynd ar goll bob blwyddyn" yng ngogledd Cymru a bod y "gwasanaeth mae’r rhan fwyaf yn cael yn wych.”

“Dwi ddim eisiau gweld cwyn gan neb, ond mae gwaith heddlu yn gymhleth ac yn anodd.” 

“Yn y flwyddyn ddiwethaf, ry’n ni wedi neud llawer o newidiadau ar sut i ddelio ag achosion o bobl sy’n mynd ar goll. Mae lot o hyfforddiant wedi dod mewn, ac mae’r polisi wedi newid ynglŷn â phwynt o gyswllt cyson gyda’r heddlu.”

“I deulu Catrin, ry’n ni wedi ymddiheuro iddyn nhw, a dwi digon hapus i ail-ymddiheuro iddyn nhw am y gwasanaeth a gawson nhw o Heddlu Gogledd Cymru. Ry’n ni’n edrych ar ail lansio’r apêl i drio cael mwy o wybodaeth o’r gymuned.”

“Dwi’n hapus i gwrdd â theulu Tony Haigh i siarad am eu pryderon nhw am y gwasanaeth gawson nhw.” 

Y Byd ar Bedwar: Ar Goll Nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C Clic neu BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.