Newyddion S4C

Galw am wahardd gyrwyr ifanc newydd rhag cludo teithwyr

Cwest bechgyn Llanfrothen

Mae cymdeithas foduro yn galw ar Lywodraeth y DU i wahardd gyrwyr ifanc sydd newydd gymhwyso rhag cludo teithwyr o oedran tebyg ar ôl i bedwar bachgen foddi mewn damwain car yn Eryri.

Bu farw Jevon Hirst, 16, Harvey Owen, 17, Wilf Fitchett, 17, a Hugo Morris, 18, ar 21 Tachwedd y llynedd ar ôl i’w Ford Fiesta adael yr A4085 yn Llanfrothen.

Roedd y gwasanaethau brys wedi bod yn chwilio am y pedwar bachgen o Sir Amwythig am ddeuddydd ar ôl iddyn nhw fethu â dychwelyd o daith gwersylla.

Yn dilyn cwest i'w marwolaeth ddydd Mercher, mae'r AA yn galw ar yr Adran Drafnidiaeth i wahardd gyrwyr o dan 21 oed sydd newydd gymhwyso rhag cludo teithwyr o oedran tebyg am chwe mis ar ôl pasio eu prawf gyrru.

Dylai'r gyrwyr hynny hefyd gael chwe phwynt cosb ar eu trwydded am beidio â gwisgo gwregys diogelwch yn ystod yr un cyfnod, meddai'r AA. 

Byddai'r mesurau hyn yn fath o drwyddedau gyrru graddedig (GDL), sydd eisoes yn cael eu defnyddio mewn sawl gwlad, gan gynnwys yr UDA, Canada, Awstralia a Sweden. 

Byddai cyflwyno GDL yn y DU yn arbed o leiaf 58 o fywydau ac yn atal 934 o bobl rhag eu hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau ffordd bob blwyddyn, yn ôl amcangyfrifon y gymdeithas foduro.

Mae ffigurau’r Adran Drafnidiaeth yn dangos bod 290 o bobl wedi’u lladd a 4,669 wedi’u hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau ar ffyrdd y DU'r llynedd oedd yn cynnwys o leiaf un gyrrwr 17-24 oed.

Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth nad ydyn nhw'n mynd i gyflwyno GDL, ond eu bod nhw'n "ystyried mesurau eraill i fynd i’r afael â’r broblem".

'Pris bach i'w dalu'

Dywedodd Edmund King, Cyfarwyddwr Cymdeithas Foduro'r AA, y byddai'r gwaharddiad yn "bris bach i'w dalu".

"Byddai cyflwyno cyfyngiadau ar deithwyr yn helpu i liniaru’r risg gynyddol y mae’n rhaid i yrwyr ifanc ei rheoli pan fydd ganddyn nhw deithwyr oedran cyfoedion yn teithio gyda nhw," meddai Mr King.  

"Mae cyfyngiad chwe mis yn bris bach i’w dalu am achub bywydau ifanc."

Ychwanegodd: "Mae yna gryn dipyn o gefnogaeth i gyflwyno GDL, felly mae gan y Llywodraeth gyfle gwirioneddol i wneud iddo ddigwydd ac achub bywydau.

"Mae’r cwest diweddar iawn i farwolaethau trasig pedwar o ddynion ifanc yn ein hatgoffa’n llwyr fod angen cymryd camau i amddiffyn bywydau ifanc, ac mae angen ei gymryd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach."

Daw'r alwad ar ôl i uwch grwner gogledd-orllewin Cymru, Kate Robertson, godi pryderon am yrwyr ifanc sydd newydd gymhwyso yn cludo teithwyr yng nghwest i farwolaeth y pedwar bachgen o Sir Amwythig yr wythnos diwethaf.

Clywodd y cwest eu bod wedi boddi ar ôl i'r car oedden nhw'n teithio ynddo lanio ben i lawr mewn ffos yn Eryri.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth: "Er nad ydym yn ystyried trwyddedau gyrru graddedig, rydym yn cydnabod yn llwyr fod pobl ifanc yn dioddef yn anghymesur o ddigwyddiadau trasig ar ein ffyrdd. Rydym yn ystyried mesurau eraill i fynd i’r afael â’r broblem hon ac amddiffyn gyrwyr ifanc.

"Dyna pam rydym wedi ymrwymo i gyflawni strategaeth diogelwch ffyrdd newydd – y gyntaf ers dros ddegawd – a byddwn yn gosod y camau nesaf maes o law."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.