Anhrefn Trelái: Nifer yn ymddangos yn y llys
Mae’r oedolion cyntaf sydd wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r anhrefn yn ardal Trelái, Caerdydd y llynedd wedi ymddangos yn y llys er mwyn cyflwyno eu ple.
Roedd anhrefn ar strydoedd Trelái ar ddydd Llun, Mai 22, 2023 yn dilyn marwolaethau dau fachgen ifanc, Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, mewn gwrthdrawiad.
Dangosodd delweddau CCTV fan Heddlu De Cymru yn dilyn y bechgyn ar feiciau trydan cyn iddyn nhw fod mewn gwrthdrawiad yn ddiweddarach.
Wrth i densiynau gynyddu rhwng pobl leol a’r heddlu, cafodd dwsinau o blismyn eu hanafu a chafodd ceir eu rhoi ar dân.
Kyle Telemaque, 19 o Drelái oedd y cyntaf i ymddangos yn llys Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, gan bledio’n euog i achosi terfysg. Plediodd hefyd yn euog i ddau gyhuddiad arall yn ymwneud â chyflenwi canabis.
Plediodd Jumana Fouad, 18, yn euog i achosi terfysg.
Plediodd McKenzie Danks, 21, o ardal Caerau yn ddieuog i achosi terfysg, ond plediodd yn euog i ymosod ar ddau blismon.
Plediodd 15 arall yn ddieuog i achosi terfysg, sef Lianna Tucker, 18 o Drelái, Michaela Gonzales 26 o Drelái, Jayden Westcott, 20 o Drelái, Jamie Jones, 23 o Lanrhymni, Luke Williams 31 o Drelái, Connor O’Sullivan 25 o Gaerau, Zayne Farrugia, 24 o Gaerau, Lee Robinson, 37 o Gaerdydd a Jaydan Baston 20 o Gaerau Harvey James, 18, o'r Tyllgoed; Jordan Webster, 28, o ardal Trelái; Kieron Beccano, 25, o Sain Ffagan; Ashdon O’Dare, 26, o Drelái; Jordan Bratcher, 26, Lanishen, a McKenzie Pring, 19, a ymddangosodd yn y gwrandawiad o garchar y Parc.
Does dim dyddiad wedi ei gyhoeddi ar gyfer yr achos llys, ac mae disgwyl i wrandawiad arall gael ei gynnal ar 1 Tachwedd.
Oherwydd fod cynifer yn sefyll eu prawf, awgrymodd Matthew Cobbe ar ran yr erlyniad y gallai'r diffynyddion gael eu rhannu i ddau grŵp. Bydd penderfyniad ar hynny yn y gwrandawiad nesaf.
Cafodd yr holl ddiffynyddion eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Bydd saith o bobl ifanc rhwng 15 a 17 oed, yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar 16 Rhagfyr wedi’u cyhuddo o achosi terfysg.
Does dim modd cyhoeddi eu henwau am eu bod o dan 18 oed.