Penderfyniad y nofiwr Dan Jervis i ddweud ei fod yn hoyw yn 'helpu eraill'
Fe fydd penderfyniad Dan Jervis i siarad yn agored am y ffaith ei fod yn hoyw yn "helpu eraill i fod yn nhw eu hunain", yn ôl y Gweinidog Addysg.
Fe rannodd y nofiwr o Gymru ei stori gyda'r BBC ar The LGBT Sport Podcast.
Mewn neges ar Twitter fore Mercher, dywedodd Jeremy Miles mai un o'r pethau pwysicaf fedrai unrhyw un ei wneud oedd "helpu eraill i fod yn nhw'u hunain".
One of the most important things anyone can do is to help someone else to be themselves.
— Jeremy Miles (@Jeremy_Miles) June 29, 2022
Dan Jervis coming out will help others to be themselves too.
Da iawn Dan! https://t.co/YHs2NcAXup
"Dwi'n gwybod sut brofiad yw tyfu fyny a wir peidio â hoffi pwy ydych chi," meddai Jervis wrth The LGBT Sport Podcast.
"Deffro bob bore a wir peidio â hoffi, casáu pwy ydych chi, a chi'n cyrraedd y pwynt lle mae'n rhaid i chi wneud rhywbeth amdano a dw i am iddyn nhw adnabod y Dan go iawn."
Mae Jervis, sy'n wreiddiol o Resolfen yng Nghastell-nedd Port Talbot, wedi ennill medal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad 2014 a medal arian yn 2018.
Dywedodd ei fod am rannu ei stori gydag eraill ar drothwy Gemau'r Gymanwlad gan fod bod yn hoyw yn anghyfreithlon yn rhai o wledydd y Gymanwlad.
"Dwi wedi stryglo am flynyddoedd gyda hyn. Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf pan wnes i dderbyn e a dweud wrth fy nheulu agos roeddwn yn teimlo'n well bob tro roeddwn i yn dweud wrth berson arall," ychwanegodd.
Mae Dan Jervis wedi rhannu ei stori ar ddiwrnod cyntaf taith Baton Gemau'r Gymanwlad. Bydd y gemau yn dechrau yn Birmingham Gorffennaf 28.
Llun: Dan Jervis/Instagram