Tata: Rhagor o gefnogaeth ariannol i weithwyr a busnesau
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn dyblu'r arian i gefnogi gweithwyr a busnesau sydd wedi cael eu heffeithio ar ôl i ddwy ffwrnes ddur gau ar safle gwaith dur Tata ym Mhort Talbot.
Dywedodd gweinidogion y byddai £15 miliwn ychwanegol yn cael ei neilltuo ar gyfer busnesau yn y gadwyn gyflenwi a gweithwyr sydd wedi dioddef yn sgîl y newidiadau.
Yn ôl Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens, mae'r cyhoeddiad yn golygu y bydd arian i gefnogi busnesau ar draws Cymru oedd yn ddibynnol ar waith dur Tata bellach yn cael ei gynyddu i £30 miliwn.
Cyhoeddodd hefyd y byddai rhagor o fusnesau yn gallu ymgeisio am gyllid.
Mae'r Llywodraeth yn dweud fod "galw sylweddol" am yr arian presennol, gyda bron i 40 o fusnesau yn cyflogi 2,000 o bobl eisoes wedi dechrau'r broses ymgeisio.
Y gred yw y bydd grantiau gwerth miliynau o bunnoedd yn cael eu rhyddhau yn y flwyddyn newydd.
Daw'r cynnydd mewn cyllid gyda'r disgwyl y bydd rhagor o bobl yn gadael Tata yn 2025 drwy gynllun diswyddiad gwirfoddol y cwmni.
Dywedodd Ms Stevens: "Mae'r Llywodraeth yn gweithredu yn gadarn er mwyn cefnogi gweithwyr a busnesau ym Mhort Talbot.
"Er bod hwn yn parhau yn gyfnod anodd i weithwyr Tata, eu teuluoedd a'r gymuned, rydym yn benderfynol i gefnogi gweithwyr a busnesau yn ein diwydiant dur yng Nghymru, beth bynnag fydd yn digwydd."