Newyddion S4C

Rhybudd i rieni beidio â phrynu sgwteri trydan fel anrhegion Nadolig

Sgwteri trydan

Mae 'na rybudd i rieni beidio â phrynu sgwteri trydan fel anrhegion Nadolig eleni rhag ofn eu bod nhw'n torri'r gyfraith, yn ôl yr heddlu.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio y gallai pobl wastraffu "cannoedd o bunnau" wrth brynu'r sgwteri trydan fel anrhegion Nadolig eleni.

Daw'r rhybudd wrth i heddluoedd ar draws y DU gymryd sgwteri trydan sy'n cael eu defnyddio'n anghyfreithlon.

Er nad yw'n anghyfreithlon i brynu sgwteri trydan, does gan bobl ddim hawl i'w defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus, palmentydd na pharciau cyhoeddus.

Gall pobl ond eu defnyddio'n gyfreithlon ar dir preifat gyda chaniatâd y perchennog tir yn unig.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, gall rhieni sy'n prynu'r sgwteri trydan fel anrhegion gael eu herlyn os ydy eu plant yn cael eu dal yn torri'r gyfraith.

Gall defnyddwyr sgwteri trydan gael eu herlyn am sawl trosedd.

Mae'r canlyniadau’n cynnwys dirwy o £300 a chwe phwynt cosb ar eu trwydded yrru.

'Perygl sylweddol'

Roedd 1,402 o wrthdrawiadau yn cynnwys sgwteri trydan yn 2021, yn ôl ffigurau diweddaraf Llywodraeth y DU.

Dywedodd y Rhingyll Dave Mallin o Heddlu Dyfed-Powys nad oedd nifer o bobl yn ymwybodol o'r cyfyngiadau ar eu defnydd.

"Rydyn ni’n deall y gall sgwteri trydan ymddangos yn syniad cyffrous, llawn hwyl, ar gyfer anrheg, ond mae’n bwysig deall y rheolau a’r peryglon sy’n gysylltiedig â nhw," meddai. 

"Gall eu cyflymder a’u tawelwch gyflwyno perygl sylweddol i ddiogelwch cerddwyr a defnyddwyr eraill y ffyrdd, yn arbennig cerddwyr sy’n agored i niwed.

"Mae llawer o bobl yn anwybodus o’r cyfyngiadau ar sgwteri trydan, ac er y gall masnachwyr fod yn hapus i werthu un ichi, gall gael ei gipio yr eiliad fyddwch chi’n ceisio ei ddefnyddio mewn man cyhoeddus."

Ychwanegodd: "Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gweithredu ymagwedd dim goddefgarwch tuag at sgwteri trydan a byddwn yn annog rhieni i feddwl ddwywaith cyn prynu sgwteri trydan yn anrhegion y Nadolig hwn ac ystyried anrheg mwy diogel a phriodol."

Llun: Mike Kemp / Getty Images

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.