Ffrainc: Dedfrydu Dominique Pelicot i 20 mlynedd o garchar am dreisio ei wraig
Mae cyn-ŵr Gisèle Pelicot, Dominique, wedi cael ei ddedfrydu i 20 mlynedd o garchar am ei threisio hi ar ôl rhoi cyffuriau iddi hi.
Roedd wedi gwahodd dynion eraill i’w threisio hi tra roedd hi'n anymwybodol ac wedi ffilmio’r ymosodiadau.
Mae 50 o’r dynion hynny hefyd wedi cael eu dedfrydu i gyfanswm o dros 400 mlynedd ar ôl eu cael yn euog am o leiaf un cyhuddiad yn eu herbyn.
Cafodd y troseddau eu cyflawni dros gyfnod o fwy na degawd.
Cafodd Ms Pelicot, 72 oed, gymeradwyaeth wrth iddi gyrraedd y llys yn Avignon bore dydd Iau.
Roedd Ms Pelicot wedi ildio ei hawl i anhysbysrwydd, gan ddweud ei bod am wneud "cywilydd i gyfnewid ochr" o'r dioddefwr i'r treisiwr.
Mae llywydd Cynulliad Cenedlaethol Ffrainc wedi diolch i Gisèle Pelicot am ei "dewrder".
Dywedodd Yaël Braun-Pivet fod Ms Pelicot yn cario “llais cymaint o ddioddefwyr” drwyddi.
“Nid yw’r byd yr un peth mwyach diolch i chi,” meddai.
Mae cyfreithiwr Dominique Pelicot, Beatrice Zavarro, wedi dweud y bydd ei chleient yn defnyddio'r 10 diwrnod nesaf i wneud penderfyniad ynghylch a ddylid apelio yn erbyn y dyfarniad.