Rhybuddion melyn am wynt i Gymru dros y penwythnos
Mae tywydd garw ar y gorwel gyda rhybuddion am wyntoedd cryfion mewn lle dros y penwythnos.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wynt i rannau o Gymru ddydd Sadwrn.
Bydd y rhybudd am wyntoedd cryfion mewn grym o 07:00 tan 23:59 ddydd Sadwrn.
Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer siroedd Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn.
Ond erbyn dydd Sul, bydd y rhybudd yn berthnasol i Gymru gyfan.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, bydd rhybudd melyn am wynt mewn grym o 00:00 tan 21:00 ddydd Sul.
Mae disgwyl y bydd hyrddiadau o hyd at 60mya, gyda rhai ardaloedd arfordirol yn profi hyrddiadau o hyd at 70mya.
Fe allai hyn achosi oedi ar y ffyrdd ac i wasanaethau trenau a fferïau, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
"Gallai gael mwy o effaith nag arfer o ystyried y bydd cynnydd yn nifer y teithwyr ar y penwythnos cyn y Nadolig," medden nhw.
Maen nhw hefyd wedi rhybuddio fod perygl i ffyrdd a chymunedau arfordirol gael eu heffeithio gan donnau mawr.