Newyddion S4C

Biliau Dŵr Cymru i gynyddu 42% dros y pum mlynedd nesaf

19/12/2024

Biliau Dŵr Cymru i gynyddu 42% dros y pum mlynedd nesaf

Bydd biliau cwsmeriaid Dŵr Cymru yn cynyddu dros 40% dros y pum mlynedd nesaf, yn ôl y rheoleiddiwr dŵr Ofwat.

Mae Ofwat wedi cyhoeddi y bydd biliau cwsmeriaid Dŵr Cymru yn cynyddu o £455 yn 2024/25 i £645 yn 2029/30, sef cynnydd o £190 (42%).

Dyma fydd y cynnydd uchaf ymysg yr holl gwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr.

Mae Dŵr Cymru yn dweud eu bod yn bwriadu parhau i ddarparu cymorth ariannol i gwsmeriaid sy'n cael trafferth gyda'u biliau.

Mae'r cynnydd yn uwch na'r cynnig drafft gan y rheoleiddiwr ym mis Gorffennaf, a oedd yn nodi y byddai biliau yn cynyddu £137 dros gyfnod o bum mlynedd.

Dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn cynyddu eu biliau'n "sylweddol uwch na chwyddiant" er mwyn buddsoddi mewn meysydd sydd angen gwelliannau, gan gynnwys lleihau gollyngiadau.

Roedd cwmnïau dŵr ar draws y DU wedi gofyn am godiad cyfartalog o 40%.

Fe wnaeth penderfyniadau drafft Ofwat ganiatáu i gwmnïau dŵr gynyddu biliau ar gyfartaledd o 21% cyn ychwanegu chwyddiant dros y bum mlynedd nesaf. 

Roedd hynny er mwyn helpu i ariannu £88 biliwn o fuddsoddiad wrth wella gwasanaethau a'r amgylchedd. 

Byddai'r cynnydd yn dod i rym o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

'Moment arwyddocaol'

Dywedodd prif weithredwr Ofwat, David Black: "Mae heddiw yn nodi moment arwyddocaol. Mae’n rhoi cyfle i gwmnïau dŵr adennill ymddiriedaeth cwsmeriaid trwy ddefnyddio’r uwchraddiad gwerth £104 biliwn hwn i drawsnewid eu record amgylcheddol a gwella gwasanaethau i gwsmeriaid.

"Mae angen i gwmnïau dŵr wynebu’r her hon yn awr, a bydd cwsmeriaid yn disgwyl iddynt ddangos eu bod yn gallu cyflawni gwelliant sylweddol dros amser i gyfiawnhau’r cynnydd mewn biliau."

Ond mae ffigyrau a gafodd eu rhyddhau gan Ofwat ym mis Hydref yn datgelu fod cwmnïau dŵr wedi gofyn yn ddiweddarach i gynyddu biliau hyd yn oed yn fwy. 

Byddai’r ceisiadau diweddaraf gan gwmnïau yn gweld bil cyfartalog i bobl yng Nghymru a Lloegr yn codi 40% erbyn 2030, gan gostio £615 y flwyddyn.

'Pecyn cytbwys'

Dywedodd llefarydd ar ran Ofwat: "Ein bwriad ddydd Iau ydy gosod pecyn cytbwys sy'n darparu gwell gwasanaethau i gwsmeriaid a'n sicrhau fod y sector yn denu'r buddsoddiad sydd ei angen arno i sicrhau afonydd a moroedd glanach."

Daeth i'r amlwg ym mis Hydref fod Dŵr Cymru yn wynebu "taliad tanberfformiad" o £24.1m eleni am fethu targedau yn ôl Ofwat.

Mae’n un o 13 cwmni dŵr a fydd yn gorfod gostwng biliau cwsmeriaid ar ôl methu targedau ar leihau llygredd a cholli dŵr.

Dŵr Cymru sy’n wynebu y pumed "taliad tanberfformiad" mwyaf o’r 17 cwmni dŵr yn y DU sy’n cael eu rheoleiddio gan Ofwat.

Mae Aelod Seneddol Brycheiniog Maesyfed a Chwm Tawe, y Democrat Rhyddfrydol David Chadwick, wedi condemnio'r codiadau.

"Mae'n rhaid mai dyma fydd yr hoelen olaf yn yr arch i Ofwat, rheoleiddiwr heb ddannedd, sydd wedi eistedd nôl a gwylio tra mae Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy wedi pwmpio galwyni o garthffosiaeth ffiaidd i ddyfroedd Cymru," meddai. 

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Mae cyhoeddiad Ofwat heddiw yn ymateb i’n cyflwyniad ar gyfer y buddsoddiad mwyaf erioed dros y pum mlynedd nesaf er mwyn sicrhau gwelliannau sylweddol i’r gwasanaethau a ddarparwn.

"Rydym yn croesawu’r ffaith bod Ofwat wedi ymateb i’r sylwadau a wnaethom ar ôl y Penderfyniad Drafft i ganiatáu mwy o’r hyn yr oeddem wedi gofyn amdano yn ein Cynllun Busnes, gan gydnabod bod rhai targedau perfformiad heriol iawn gan gynnwys lleihau gollyngiadau a gorlifoedd stormydd."

Llun: David Cheshire / Getty Images 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.