Achub dyn syrthiodd 25 metr oddi ar glogwyn ym Mhowys
Roedd yn rhaid i ddyn gael ei achub ar ôl iddo syrthio 25 metr oddi ar glogwyn ym Mohowys ar Ddydd Calan.
Roedd criwiau'r Gwasanaeth Tân ac Achub o Abertawe Canolog a Glyn-nedd wedi cynorthwyo Tîm Achub Mynydd y Bannau i achub y dyn wnaeth syrthio ym mhentref Pontneddfechan yn ne y sir.
Fe syrthiodd y dyn i waelod clogwyn ac roedd y gwasanaethau brys wedi defnyddio rhaff er mwyn ei achub.
Cafodd ei symud i ddiogelwch cyn cael ei drosglwyddo i ofal y gwasanaeth ambiwlans.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod Heddlu Dyfed-Powys, Ambiwlans Awyr Cymru, Gwylwyr y glannau a'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi cynorthwyo gyda'r ymdrechion achub.
Fe wnaeth criwiau'r gwasanaeth tân gadael Pontneddfechan am 14:23.
