Carcharu dyn o Geredigion am fasnachu cig 'smokies' anghyfreithlon
Mae dyn o Geredigion oedd yn byw yn Iwerddon wedi cael ei estraddodi a’i garcharu am ei ran mewn ffermio anghyfreithlon a masnachu cig nad oedd yn addas i’w fwyta.
Fe gafwyd Robert Thomas, 45, yn euog o fod yn rhan o grŵp troseddol oedd yn gysylltiedig â darparu cig “smokies” ar gyfer ei baratoi i’w fwyta gan bobl.
Mae cynhyrchu “smokies” yn golygu lladd defaid yn anghyfreithlon, ac yn rhan o’r broses gynhyrchu mae’r cnu yn cael ei gadw ar y carcas a'i losgi gyda lamp losgi i roi blas mwg ar y cig.
Mae’r broses yn anghyfreithlon yn y DU a llawer o wledydd Ewrop.
Cafodd erlyniad cychwynnol ei gynnal gan Gyngor Sir Ceredigion yn 2015. Roedd yr erlyniad yn ymwneud â Mr Thomas a dyn arall o Geredigion, sy’n dal yn rhydd ac yn destun warant mewn perthynas â’r cyhuddiadau.
Yn Llys y Goron Abertawe ym mis Rhagfyr 2015, cafodd Thomas ddedfryd o 28 wythnos o garchar, wedi’i ohirio am ddwy flynedd.
Roedd wedi honni nad oedd ganddo unrhyw asedau - dim ond dau hen gar a’i fod yn ennill £40 yr wythnos yn gweithio i’w rieni.
Honnodd hefyd fod ganddo ddau gyfrif banc yn y DU heb unrhyw arian ynddynt a chyflwynodd gyfriflenni banc i brofi hynny.
Dros gyfnod o dair blynedd, gwadodd Thomas fod ganddo fwy na hyn, ac ym mis Ebrill 2017 methodd ag ymddangos yn y llys.
Cyfrifon banc
Datgelodd ymchwiliadau pellach fod gan Robert Thomas nifer o gyfrifon banc a bod ganddo eiddo a thir yn Iwerddon.
Cafodd ei arestio ym mis Rhagfyr 2021 gan awdurdodau Iwerddon a’i estraddodi i’r DU ym mis Chwefror 2022.
Fe ymddangosodd Robert Thomas yn Llys y Goron Bryste ar ddydd Llun 13 Mehefin ar ôl pledio’n euog i gyhuddiad o dyngu anudon.
Dedfrydwyd Thomas i 22 mis o garchar am dyngu anudon ac am dorri Gorchymyn Cymunedol, cafodd ddedfryd o ddau fis o garchar i redeg yn olynol, gan wneud cyfanswm o 24 mis o garchar.
Daeth y Llys i’r casgliad fod ei enillion troseddol yn dod i gyfanswm o dros £200,000. Bydd Mr Thomas felly yn wynebu achos cyfreithiol pellach.
Dywedodd y Cynghorydd Mathew Vaux, aelod o gabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Wasanaethau Diogelu’r Cyhoedd: “Mae’r achos hwn wedi dangos y bydd gwasanaethau rheoleiddio yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol mewn partneriaeth er mwyn sicrhau cyfiawnder ar gyfer y troseddau difrifol hyn.
"Mae’r fasnach anghyfreithlon o ran “smokies” yn risg ddifrifol i iechyd y cyhoedd, gan fod y cig yn aml wedi’i heintio â chlefydau a pharasitiaid a allai gael eu trosglwyddo i’r bobl hynny sy’n bwyta’r cig.
"Mae’r anifeiliaid hefyd yn cael eu lladd mewn modd annynol heb ystyried eu lles, sy’n groes i egwyddorion y safonau lles anifeiliaid uchel sydd gan gymuned ffermio Cyngor Sir Ceredigion.”
