Newyddion S4C

Cyhuddo pumed dyn mewn cysylltiad â llofruddiaeth Tomasz Waga

27/06/2022
Heddlu De Cymru
NS4C

Mae dyn arall wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 23 oed o Gaerdydd y llynedd.

Cafodd corff Tomasz Waga ei ddarganfod ar Ffordd Westville, Penylan, ar 28 Ionawr 2021.

Cafodd Hysland Aliaj, 31 ei estraddodi o’r Almaen yn gynharach fis Mehefin.

Mae Aliaj yn cael ei gadw yn y ddalfa ar ôl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar ddydd Mercher 8 Mehefin.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar ddydd Gwener 22 Gorffennaf.

Mae Aliaj wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth, achosi niwed corfforol difrifol, a chynllwynio i gynhyrchu canabis.

Mae pedwar dyn arall eisoes wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Mr Waga ac mae nifer o gerbydau wedi’u cadw fel rhan o’r ymchwiliad.

Cafodd Gladis Mehalla, 20, ei estraddodi o Albania fis Ionawr. 

Arestiwyd Mehalla 2 Hydref 2021 yn dilyn cyhoeddi gwarant arestio ryngwladol gan Heddlu De Cymru ar gyfer cyhuddiad o lofruddiaeth a niwed corfforol difrifol.

Cafodd dau ddyn arall, Josif Nushi a Mihal Dhana, sydd wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad â llofruddiaeth Tomasz, eu hestraddodi o Baris, Ffrainc, ym mis Gorffennaf y llynedd.

Mae’r heddlu yn parhau i chwilio am Elidon Elezi, 22 oed, o East Finchley, Llundain ac Artan Pelluci, 29 oed, o Cathays, Caerdydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.