Hannah Brier yw merch cyflymaf Cymru erioed ar ôl gosod record newydd
Hannah Brier o Abertawe yw merch gyflymaf Cymru erioed ar ôl iddi osod record newydd yn rowndiau'r 100m yng nghystadleuaeth Athletau’r DU ym Manceinion.
Fe redodd Brier, 24 oed, amser o 11.33 eiliad yn y rowndiau rhagbrofol ddydd Gwener gan guro eu hamser gorau o 11.39 oedd yn rhannu gyda Sallyanne Short ac Elaine O’Neill.
Fe lwyddodd Brier i ddod yn ail i Dina Asher-Smith yn y rowndiau cynderfynol brynhawn Sadwrn mewn amser o 11.29 eiliad. Ond roedd y gwynt yn rhy gryf i sefydlu'r amser yma fel record arall.
Fe ddaeth Brier yn wythfed yn y rownd derfynol mewn amser o 10.40 eiliad yn hwyrach yn y dydd.
Mae Brier a’i brawd Joe, sy’n rhedwr 400m, wedi eu dewis yn nhîm Cymru ar gyfer gemau’r Gymanwlad ym Mirmingham yn ystod yr haf.
Llun: Athletau Prydain