Newyddion S4C

Datblygu brechlyn 'cyntaf o'i fath' i drin canser y croen

26/04/2024
Brechiad cancer

Mae cleifion o’r DU ymysg y cyntaf i brofi brechiad “cynta'r byd” i drin math math o ganser ar y croen. 

Mae pob brech o’r mRNA-4157 (V940) wedi’i deilwra’n benodol i’r unigolyn, ac mae rhai arbenigwyr wedi honni y gallai’r feddyginiaeth arwain at wella canser melanoma yn gyfan gwbl.

Mae'n defnyddio'r un dechnoleg a brechiadau Covid.

Ac fe allai’r frech cael ei ddefnyddio i drin mathau o ganser eraill yn y dyfodol hefyd, gan gynnwys canser yr ysgyfaint, y bledren a'r arennau, meddai'r ymchwilwyr.

Mae datblygiadau o’r fath yn “un o’r pethau mwyaf cyffrous” mae wedi ei weld ym myd meddyginiaethau “ers tro,” meddai Dr Heather Shaw sydd yn gweithio fel ymchwilydd ar y treialon.

Caiff y brechiad “personol” ei greu o fewn ychydig wythnosau yn unig gan ddefnyddio sampl o diwmor y claf a’i gyfuno gyda gwyddoniaeth DNA gan ddeallusrwydd artiffisial (AI). 

“Mae wedi'i adeiladu'n arbennig ar gyfer y claf - ni allech chi roi hwn i'r claf nesaf yn y ciw oherwydd na fydd e’n gweithio iddyn nhw,” esboniodd Heather Shaw.

Mae Steve Young, 52, ymysg y cyntaf i brofi’r frech yn ystod y treial terfynol. 

Ac mae’r gŵr o Stevenage yn Swydd Hertford yn “hynod, hynod o gyffrous” o dderbyn y driniaeth. 

“Dyma yw fy nghyfle gorau i stopio’r canser yn gyfan gwbl,” meddai. 

Mae’r brechiad yn gweithio trwy fygwth y system imiwnedd gan ei alluogi i frwydro yn erbyn math benodol o ganser sydd gan yr unigolyn. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.