Newyddion S4C

Arestio seren Home and Away ar ôl i’r heddlu fod yn chwilio amdano am dridiau

26/04/2024
Orpheus Pledger

Mae actor a ymddangosodd ar gyfres Home and Away a Neighbours wedi’i arestio ar ôl i’r heddlu fod yn chwilio amdano am dridiau yn Awstralia.

Dywedodd yr awdurdodau yno fod Mr Pledger, 30, yn wynebu pedwar cyhuddiad ar ôl ymosodiad honedig ar ddynes.

Roedd wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ddydd Llun i gael asesiad meddygol a orchmynnwyd gan y llys, ar yr amod llym ei fod yn dychwelyd y diwrnod canlynol.

Ond pan fethodd ag ymddangos yn y llys, apeliodd yr heddlu am wybodaeth gyhoeddus a chyhoeddi gwarant i’w arestio.

Cafodd yr actor ei gadw yn y ddalfa yn ninas Melbourne ddydd Iau, meddai Heddlu Talaith Victoria. Ni wnaethant gynnig rhagor o fanylion.

Dywedodd asiant yr actor, Craig McMahon, wrth bapur newydd y Sydney Morning Herald nad oedd wedi bod mewn cysylltiad â’i gleient yr wythnos hon.

Ond roedd wedi ei syfrdanu gan yr honiadau o ymosod, meddai.

Dywedodd hefyd fod Mr Pledger wedi bod yn cael trafferth gyda materion iechyd meddwl.

Yn 2016, ymunodd â chast Home and Away lle chwaraeodd Mason Morgan am dair blynedd, ac mae wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar deledu Awstralia ers 20 mlynedd.

Ymddangosodd ar yr opera sebon poblogaidd Neighbours, yn ogystal â sioeau teledu Silversun a CrashBurn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.