Protestiadau yn yr UDA yn dilyn penderfyniad i wyrdroi yr hawl i erthylu
Mae protestiadau wedi eu cynnal mewn dinasoedd ar draws America ar ôl i’r Goruchaf Lys yn y wlad wyrdroi yr hawl i erthylu.
Mae clinigau erthylu mewn nifer o daleithiau eisoes wedi rhoi’r gorau i’w gwasanaethau yn sgil y penderfyniad.
Ddydd Gwener roedd y Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau wedi pleidleisio i wrthdroi’r hawl cyfansoddiadol i ddewis erthylu, wythnosau wedi i ddogfen gael ei rannu gyda'r wasg yn awgrymu bod aelodau'r llys yn bwriadu cael gwared â deddfwriaeth Roe v Wade.
Fe fydd miliynau o fenywod yn yr Unol Daleithiau yn colli’r hawl cyfreithiol i erthyliad, ar ôl i’r Goruchaf Lys wyrdroi dyfarniad 50 oed.
Fe fydd y dyfarniad yn trawsnewid hawliau erthyliad yn America, gyda talaethau unigol nawr yn gallu gwahardd y drefn.
Mae Arlywydd yr Unol Daliethau, Joe Biden wedi disgrifio'r penderfyniad fel “camgymeriad trasig".
Darllenwch fwy yma.
Llun: Sky