Newyddion S4C

Cynnal angladd bachgen 13 oed fu farw yn Afon Taf ddydd Mawrth

25/06/2022
Aryan

Cafodd angladd bachgen 13 oed a fu farw yn Afon Taf ei gynnal ddydd Sadwrn.

Cafodd Aryan Ghoniya ei ddarganfod yn yr afon am tua 17:45 ddyddd Mawrth ar ôl i wasanaethau brys geisio dod o hyd iddo.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, nid oedd modd ei achub.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu "na fydd diwrnod pan na fyddwn yn gweld ei eisiau".

Dywedodd ei deulu mai Aryan oedd eu "Athro Bach" oedd yn "wych am Fathemateg" ac yn dda am bopeth yn academaidd.

Dywedon nhw hefyd ei fod yn "gariadus iawn", bod ganddo "bersonoliaeth gynnes" ac roedd "pawb oedd yn ei adnabod yn ei garu".

Mae ymchwiliad i amgylchiadau ei farwolaeth yn parhau.

Roedd yr angladd wedi mynd heibio ei ddwy ysgol – Ysgol Gynradd Danescourt ac Ysgol Uwchradd Radyr.

Darllenwch fwy yma.

Llun: Teulu

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.