Teyrngedau i 'barafeddyg poblogaidd' o Wynedd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i barafeddyg "hoffus a hirhoedlog" fu farw mewn damwain nos Iau.
Roedd Robin Parry Jones yn wreiddiol o Gaernarfon yn gweithio fel parafeddyg yng ngorsaf Ambiwlans Pwllheli.
Fe gadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi'u galw i leoliad ger pentref Llanystumdwy yng Ngwynedd am 21:45 nos Iau lle cafodd corff dyn ei ddarganfod, ac fe gadarnhaodd y gwasanaeth ambiwlans ddydd Gwener fod Robin wedi marw o ganlyniad i "ddamwain".
Roedd Robin yn Arweinydd Tîm Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol ym Mhen Llŷn, lle bu’n cefnogi tîm mawr o wirfoddolwyr.
Mewn datganiad gan y Gwasanaeth Ambiwlans, dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Roedd Robin yn berson uchel ei barch, cariadus a hapus-go-lwcus a oedd yn adnabyddus iawn yng nghymuned Pwllheli.
“Roedd yn un o 'hyrwyddwyr' Ymatebwyr Cyntaf y Gymuned gwreiddiol, eiriolwr gwirioneddol dros wirfoddolwyr a ddaeth yn gyswllt annatod rhwng gwirfoddolwyr a gorsafoedd lleol.
“Roedd gan Robin angerdd gwirioneddol dros wydnwch cymunedol, ac mae ei ymrwymiad i gefnogi gwirfoddolwyr yn ei amser ei hun yn adlewyrchiad o’i gymeriad.
Mae Robin hefyd wedi ei ddisgrifio fel pysgotwr brwd ac yn aelod o’r gymuned saethu leol gyda’i gydweithwyr o Bwllheli.
Fe ychwanegodd Mr Killens: “Bydd colled sydyn a thrist Robin yn cael ei deimlo gan bawb oedd yn ei adnabod, a hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu, ffrindiau a chydweithwyr Robin ar yr adeg anodd hon."