Adwaith yn perfformio yn Glastonbury
Bydd y band o Gaerfyrddin, Adwaith, yn perfformio yng ngŵyl Glastonbury ddydd Sadwrn.
Hollie Singer, Gwenllïan Anthony a Heledd Owen ydy aelodau'r band, a byddant yn canu yn y Gymraeg gan ychwanegi at y rhestr o fandiau Cymreig sydd wedi perfformio yn un o wyliau enwocaf y byd.
Bydd y dair Gymraes o Gaerfyrddin yn ymuno â rhai o enwogion cerddorol mwyaf y byd, o Paul McCartney i Kendrick Lamar, o Fleetwood Mac i Diana Ross.
Bydd y band yn chwarae ar lwyfan BBC Music Introducing sy'n rhoi'r cyfle i rai o artistiaid newydd y sîn i arddangos eu doniau.
Fe wnaeth eu halbwm gyntaf, Melyn, ennill y wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019, a bydd yr ail albwm, Bato Mato, yn cael ei rhyddhau ym mis Gorffennaf.
Mae Glastonbury wedi dychwelyd am y tro cyntaf ers tair mlynedd ar ôl gorfod gohirio yn sgil y pandemig.
Llun: Libertino Records