Newyddion S4C

Gwyliwch: Dros 2,000 o ddisgyblion yn recordio cân i groesawu Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn

26/04/2024
Mr Urdd a phlant yn canu

Mae dros 2,000 o ddisgyblion o 38 o ysgolion gwahanol wedi recordio cân jambori i groesawu Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn ddiwedd Mai. 

Fe gafodd ‘Dewch Draw i’r ’Steddfod ym Maldwyn’ ei chyd-ysgrifennu gan Ann Fychan a'r cyfansoddwr Rhydian Meilir. 

Wedi ei fagu ym Mro Ddyfi yn Sir Drefaldwyn, mae wedi bod yn brofiad braf iawn i Rhydian wrth weld y plant yn perfformio a recordio'r gân. 

"Dwi’n falch iawn i gael y cyfle i gyfansoddi cân ar y cyd i godi ymwybyddiaeth at Steddfod Maldwyn, a wedi mwynhau’r broses o gynhyrchu’r gân a chlywed y plant yn mwynhau ei chanu wrth inni deithio o amgylch yr ysgolion," meddai.

"Gwych oedd gweithio efo Ann Fychan hefyd a sgwennu’r diwn i gyd-fynd â’i geiriau hi."

Ysgolion y ffin

Mae nifer o ysgolion ar y ffin ymysg y 38 ysgol sydd wedi perfformio'r gân, gyda nifer o ddisgyblion yn cymryd rhan yng ngweithgareddau'r Urdd am y tro cyntaf. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd, Llio Maddocks: "Fel mudiad rydyn ni bob amser yn awyddus i sicrhau bod ein gweithgareddau ar gael i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

"Wrth i’r Eisteddfod symud o ardal i ardal mae’n gyfle inni estyn allan i blant sydd heb gymryd rhan yn yr ŵyl o’r blaen a rhoi cyfle iddynt brofi gweithgareddau fel recordio’r gân croeso. 

"Mae’r mwynhad ar wynebau’r plant yn y recordiad fideo yn dweud y cyfan. Mi ydan ni fel trefnwyr mor falch eu bod nhw’n gyffrous i groesawu pawb i Faldwyn eleni."

'Hwyl'

Ychwanegodd Arweinydd y priosect ydy Rhian Davies o Menter Iaith Maldwyn: "Mae’r prosiect wedi bod yn lot o hwyl! Neidiodd 38 o ysgolion cynradd lleol ar y cyfle i fod yn rhan o’r recordiad. Pob un wrth eu boddau i floeddio eu balchder a’u cefnogaeth i gael Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn, ac yn mwynhau canu a dawnsio i’r gerddoriaeth. 

"Ffracsiwn bychan o drefi a phentrefi Maldwyn sy’n cael eu rhestru yn y gân - ond ’da ni'n gobeithio yn fawr y bydd clywed enwau difyr fel Glantwymyn a’r Adfa, Cegidfa a Llandrinio yn codi chwant at ymwelwyr yr Eisteddfod i grwydro’r ardal a dod i adnabod Mwynder Maldwyn yn well."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.