Newyddion S4C

Cadeirydd y Blaid Geidwadol, Oliver Dowden, yn ymddiswyddo

24/06/2022
Dowden / Llun Rhif 10 .png

Mae Cadeirydd y Blaid Geidwadol, Oliver Dowden, wedi ymddiswyddo yn dilyn noson drychinebus i'r Ceidwadwyr nos Iau ar ôl iddyn nhw golli dau is-etholiad.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill isetholiad Tiverton a Honiton a Llafur wedi ennill isetholiad Wakefield yn dilyn pleidlais ddydd Iau. 

Yn oriau man bore Gwener, cyhoeddodd Cadeirydd y Blaid Geidwadol, Oliver Dowden, ei fod yn ymddiswyddo yn sgil canlyniadau nos Iau.

Mewn llythyr i'r Prif Weinidog, dywedodd mai'r "is-etholiadau ydy'r diweddaraf mewn cyfres o ganlyniadau gwael i'n plaid ni. Mae ein cefnogwyr ni yn rhwystredig ac wedi eu siomi yn sgil digwyddiadau diweddar, a dwi'n rhannu eu teimladau.

"Fedrwn ni ddim parhau fel hyn. Mae'n rhaid i rywun gymryd cyfrifoldeb a dwi wedi dod i'r casgliad yn yr amgylchiadau yma na fyddai hi'n iawn i mi barhau yn fy swydd."

Mr Dowden ydy'r aelod cyntaf o'r cabinet i gamu o'r neilltu yn sgil y pwysau cynyddol ar y Prif Weinidog yn dilyn canfyddiadau am bartïon yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo.

Fe bleidleisiodd 148 o ASau Ceidwadol yn datgan pleidlais o ddiffyg hyder yn Mr Johnson. 

Llun: Rhif 10

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.