Newyddion S4C

10 mlynedd o garchar i ddyn o Fôn am droseddau terfysgaeth

North Wales Chronicle 23/06/2022
Samuel Whibley

Mae dyn o Fôn wedi ei garcharu am 10 mlynedd ar ôl ei gael yn euog o wyth cyhuddiad o droseddau terfysgaeth yn Llys y Goron Sheffield ddydd Iau.

Fe gafodd Samuel Whibley, 29, o Borthaethwy ei garcharu ynghyd â thri arall ac fe gafwyd nhw yn euog o gyfanswm o 18 o droseddau ar 29 Mawrth wedi i heddwas cudd ddod â'r troseddau i'r amlwg.

Cafodd Daniel Wright, Liam Hall a Stacey Salmon ei dedfrydu i 12, chwe a tair blynedd yn y gwrandawiad ddydd Iau.

Yn ystod yr achos llys gwreiddiol a barhaodd am 11 wythnos, fe glywodd y rheithgor sut wnaeth y diffynyddion ddefnyddio grŵp sgwrsio preifat ar-lein i rannu barn a phropaganda asgell-dde eithafol a chefnogi defnydd trais i fynd â'u hachos ymhellach.

Darllenwch fwy yma.

Llun: Heddlu Gwrth Derfysgaeth y Gogledd Ddwyrain

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.