Newyddion S4C

Penodi Carolyn Hitt yn Olygydd newydd BBC Radio Wales a Chwaraeon

23/06/2022
Carolyn Hitt

Mae Carolyn Hitt wedi cael ei phenodi yn Olygydd newydd BBC Radio Wales a Chwaraeon. 

Mae Carolyn yn golofnydd profiadol sydd wedi bod yn gweithio i'r Western Mail am fwy na 30 mlynedd, a bydd hi'n dechrau yn ei rôl newydd ym mis Awst. 

Mae hi wedi cynhyrchu sawl sioe ar Radio 2 dros y blynyddoedd yn ogystal ag ysgrifennu ar gyfer The Guardian, The Daily Telegraph ac amryw o gylchgronnau. 

Dywedodd Carolyn bod "sain a chwaraeon yn chwarae rhan arwyddocaol ym mywyd cenedl gan eu bod nhw'n ein huno ac yn gwneud i ni adlewyrchu. Bydd gallu gweithio gyda thalent BBC Radio Wales a BBC Wales Sport i ysbrydoli, cysylltu a chyffroi y gynulleidfa yng Nghymru yn fraint."

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhuanedd Richards, bod gan Carolyn "y profiad helaeth o greadigrwydd sy'n hollbwysig ar gyfer y swydd hon yn BBC Wales.

"Mae ganddi'r angerdd i ddweud stori a chreu cynnwys cyffrous heb ei ail a dwi'n gwybod y bydd hi'n ychwanegiad gwych i'r tîm wrth i ni baratoi at gyfnod hynod o gyffrous."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.