Newyddion S4C

Profion Covid-19 am ddim yn cael eu hymestyn yng Nghymru

24/06/2022
Profion Covid

Fe fydd profion llif unffordd ar gael am ddim i'r cyhoedd sy'n dangos symptomau Covid-19 drwy gydol mis Gorffennaf.

Fe fydd profion hefyd ar gael am ddim i bobl sy'n ymweld â rhywun sy'n gymwys i gael triniaethau newydd ar gyfer COVID-19. Bydd cartrefi gofal hefyd yn parhau i gael profion am ddim i ymwelwyr.

Daw'r cyhoeddiad i ymestyn cyfnod y profion yn dilyn cynnydd mewn achosion, gydag arolwg diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi cynnydd mewn achosion ar draws y DU. 

Yn ôl y Llywodraeth, amcangyfrifir bod gan un o bob 45 o bobl yng Nghymru COVID-19 ar hyn o bryd.

Mae ymddangosiad is-amrywiolion BA.4 a BA.5 hefyd yn cyfrannu at y cynnydd hwn wrth iddynt ddod yn fwy amlwg ledled y DU.

Bydd y profion canlynol yn parhau i fod ar gael –

  • Profion LFD a PCR ar gyfer y rhai sy'n gymwys i gael triniaethau ar gyfer COVID-19
  • Profion PCR ar gyfer COVID-19 a feirysau anadlol eraill ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal a charcharorion symptomatig
  • Profion PCR ac LFD o dan y fframwaith profi cleifion ac yn unol â chyngor clinigol, gan gynnwys cleifion ysbyty cyn iddynt gael llawdriniaeth a phreswylwyr cartrefi gofal sy'n dychwelyd ar ôl cyfnod fel claf mewnol yn yr ysbyty
  • Profion LFD ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol symptomatig
  • Profion LFD ddwywaith yr wythnos ar gyfer cynnal profion asymptomatig i staff iechyd a gofal cymdeithasol

Mae’r rhai sy'n ymweld â phobl mewn cartrefi gofal yn cael eu cynghori i barhau i brofi gan ddefnyddio profion sy’n cael eu darparu gan y cartrefi gofal hynny.

Bydd y taliadau hunanynysu o £500 yn dod i ben ar 30 Mehefin 2022, ond bydd y Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol yn cael ei ymestyn tan 31 Awst 2022 i gefnogi staff gofal cymdeithasol i gadw draw o'r gwaith os byddant yn profi’n bositif.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru Eluned Morgan: "Mae profion wedi bod yn arf effeithiol i dorri'r gadwyn drosglwyddo, ac oherwydd y cynnydd mewn achosion mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gynnal profion er mwyn diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. 

"Fel y gwelsom o'r blaen, gall Covid newid yn gyflym, ac rwy'n cyhoeddi'r estyniad hwn mewn ymateb i’r sefyllfa sy’n newid, a’r amrywiolion newydd sy'n peri pryder.

"Nid yw Covid wedi diflannu, er ein bod yn dysgu byw'n ddiogel gydag ef. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac, fel yr ydym wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i Ddiogelu Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.