Dyn a ffilmiodd ei hun yn treisio menyw ar ffôn wedi ei garcharu am 10 mlynedd
Mae dyn a ffilmiodd ei hun yn treisio menyw ar ffôn y fenyw wedi ei ddedfrydu i 10 mlynedd o garchar.
Fe ymosododd Cameron Hassan, 31 oed, ar y fenyw a'i threisio wrth iddi gysgu yn Rhydaman ar 21 Awst 2021.
Roedd Hassan hanner ffordd drwy ei achos yn Llys y Goron Abertawe ar ôl gwadu'r cyhuddiad, cyn iddo newid ei ble wedi i'r rheithgor gael gweld fideo o'r ymosodiad.
Roedd o flaen Llys y Goron Abertawe eto ddydd Iau lle dderbyniodd dedfryd o 10 mlynedd dan glo.
Dywedodd Uwch Swyddog Ymchwilio Melanie Havard: "Rydym yn gobeithio bod yr achos hwn yn dangos fod Heddlu Dyfed-Powys yn ymateb i gyhuddiadau difrifol fel trais ac ymosodiad rhyw gyda swyddogion yn gweithio'n ddiflino i sicrhau cyfiawnder ar gyfer dioddefwyr."