46% yn credu y dylid cael Tywysog Cymru arall ar ôl y Tywysog Charles
Ydy pobl Cymru eisiau tywysog arall ar ôl y Tywysog Charles?
Mae pôl piniwn newydd gan YouGov ac ITV Cymru wedi canfod fod gwahaniaeth ym marn y cyhoedd ynghylch parhad y teitl Tywysog Cymru.
Yn y pôl piniwn Yougov a ITV Cymru diweddaraf fe wnaethon nhw ofyn i bobl a ddylai fod Tywysog Cymru ar ôl i Charles ddod yn Frenin.
Dywedodd 46% y dylai, 31% na ddylai a 23% nad oeddent yn gwybod.
Mae’n dilyn cwestiwn tebyg a ofynnwyd ganddynt yn 2018 i nodi 60 mlynedd ers i’r Tywysog ddod yn Dywysog Cymru.
Y tro hwnnw, 57% ddywedodd eu bod am i'r Tywysog William etifeddu’r teitl tra dywedodd 22% y dylid ei adael yn wag neu ei ddileu.
Mae Charles wedi bod yn Dywysog Cymru am fwy o amser na neb arall sef 64 mlynedd fis nesaf.
Cafodd y teitl fel bachgen ysgol, gan glywed y cyhoeddiad gan y Frenhines ar ddiwedd Gemau’r Gymanwlad yng Nghaerdydd, ar radio yn swyddfa ei brifathro.
Ond, pan ddaw'r Tywysog Charles yn Frenin, bydd y teitl yn dod yn wag.
Rhoddir y teitl i etifedd gwrywaidd, a nesaf yn y linell fydd y Tywysog William ac yna ei fab y Tywysog George.
Ond mae'r teitl Tywysog Cymru yn ddadleuol i rai sy'n credu mai gwir Dywysog brodorol olaf Cymru oedd Llywelyn ap Gruffydd, neu Llywelyn ein Llyw Olaf.
Dim ond 60 mlynedd yn ôl, yn yr 1960au fe wnaeth y syniad o Dywysog Cymru newydd a seremoni arwisgo yng Nghastell Caernarfon ysgogi protestiadau a hyd yn oed cynllwynion bomio.
Llun: Wikimedia Commons