Lori'n cario 24 paled o win yn mynd ar dân ar Bont Tywysog Cymru
22/06/2022
Mae lori wedi mynd ar dân ar Bont Tywysog Cymru ddydd Mercher gan gau'r lôn i gyfeiriad y gorllewin.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Avon nad oedd neb wedi eu hanafu a bod y tân bellach wedi ei ddiffodd.
Mae rhybuddion yn eu lle am oedi ar yr M4 a'r M5 ac yng Ngwent.
Roedd y lori yn cario 24 paled o win.
Mae criwiau tân yn parhau i fod yn bresennol er mwyn sicrhau fod y lle yn ddiogel a symud y llwyth.
Llun: Keith Scott