Y Gweinidog Iechyd yn ymddiheuro i'r Senedd am ei gwaharddiad goryrru
Y Gweinidog Iechyd yn ymddiheuro i'r Senedd am ei gwaharddiad goryrru
Mae'r Gweinidog iechyd Eluned Morgan wedi ymddiheuro i'w chyd-aelodau yn y Senedd ar ôl iddi gael gwaharddiad gyrru am oryrru yn gynharach eleni.
Fe dorrodd Newyddion S4C y newyddion ym mis Mawrth ei bod wedi derbyn gwaharddiad gyrru a dirwy o £800 gan Lys Ynadon Yr Wyddgrug.
Cafodd ei gwahardd rhag gyrru am chwe mis ar ôl pledio'n euog i'r cyhuddiad.
Roedd y Gweinidog Iechyd wedi ei dal yn goryrru tair gwaith yn flaenorol, yn 2019, 2020 a 2021.
Mewn datganiad i gyfarfod llawn o'r Senedd ddydd Mercher, dywedodd y Gweinidog ei bod yn "ymwybodol o'r cyfrifoldeb sydd arno ni i gyd fel aelodau i arwain trwy enghraifft, a dwi'n derbyn nad wyf i wedi cadw at y safonau sy'n ofynnol ohonom ni fel aelodau Seneddol yn yr achos yma.
"Dwi eisiau gwneud yn glir yn y Senedd heddiw mod i yn ymddiheuro i chi i gyd, fy nghyd-aelodau ac i bobl Cymru am y sefyllfa anffodus dwi wedi gosod fy hun ynddi a dwi am ddweud ei fod yn flin gen i am achosi unrhyw embaras dwi wedi ei achosi i'r sefydliad ag i unrhyw un sydd wedi dioddef o ganlyniad o fy ngweithredoedd.
"Dwi am gadarnhau fy mod wedi pledio yn euog i'r cyhuddiad o oryrru a dwi wedi derbyn dyfarniad y llys."
Fe dderbyniodd gerydd swyddogol gan y Senedd.