Newyddion S4C

Cyngor Gwynedd yn gofyn i dros 1,000 o berchnogion tai gwag i'w gwerthu i'r awdurdod

North Wales Live 22/06/2022
yr achosion yng Ngwynedd yn parhau'n uchel yn ôl y grŵp. Llun: Google Earth
 yr achosion yng Ngwynedd yn parhau'n uchel yn ôl y grŵp.  Llun: Google Earth

Mae Cyngor Gwynedd wedi gofyn i dros 1,000 o berchnogion tai gwag yn y sir i'w gwerthu i'r awdurdod.

Mae'r cais yn rhan o gynllun tai y cyngor i fynd i'r afael â phrinder tai yn y sir.

Hyd yn hyn mae 115 o berchnogion cartrefi gwag wedi ymateb yn gofyn am ragor o fanylion medd North Wales Live.

Mae cofnodion y cyngor yn dangos fod 1,200 o dai yn sefyll yn wag dros gyfnod hir yn ardal yr awdurdod.

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.