O leiaf 920 wedi'u lladd mewn daeargryn yn Affganistan

Mae daeargryn wedi lladd o leiaf 920 o bobl a gadael nifer fawr wedi’u hanafu yn Affganistan, meddai swyddog lleol.
Fe darodd y daeargryn yn gynnar fore Mercher gyda’i uwchganolbwynt ger tref Khost i’r de o’r brifddinas, Kabul.
Notable quake, preliminary info: M 6.1 - 44 km SW of Khōst, Afghanistan https://t.co/4ORKfdDXIR
— USGS Earthquakes (@USGS_Quakes) June 21, 2022
Dywedodd swyddog llywodraeth leol fod nifer y marwolaethau yn debygol o godi, a bod mwy na 600 o bobl eraill wedi’u hanafu.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Twitter @PanraAfg