Rhagor o oedi i deithwyr rheilffyrdd wedi diwrnod o streicio

Mae disgwyl y bydd rhagor o oedi i deithwyr trenau drwy Brydain ddydd Mercher, yn dilyn diwrnod o weithredu diwydiannol ddydd Mawrth.
Fe allai 60% o wasanaethau gael eu heffeithio ac mae cwmnïau trenau wedi rhybddio'r cyhoedd i beidio teithio ar y cledrau drwy gydol yr wythnos.
Er nad oes streic swyddogol ddydd Mercher, gall gwasanaethau gael eu heffeithio gan fod oriau gweithwyr signalau wedi eu heffeithio gan y gweithredu diwydiannol.
Fe fydd yr ail ddiwrnod o streicio gan aelodau undeb yr RMT yn digwydd ddydd Iau, gyda streic arall i ddod ddydd Sadwrn.
Darllenwch ragor yma.