Newyddion S4C

Teuluoedd pobl sy’n byw gyda Motor Niwron yn galw am fwy o arbenigedd

Newyddion S4C 22/06/2022

Teuluoedd pobl sy’n byw gyda Motor Niwron yn galw am fwy o arbenigedd

Mae tua 200 o bobl yn byw gyda'r cyflwr Motor Niwron yng Nghymru, ac mae teulu un claf wedi galw am fwy o arbenigwyr i drin y cyflwr yng Nghymru.

Un sy’n byw efo’r cyflwr yw Bob Gledhill, ac yn ôl ei wraig, Lowri Davies, “mae hi wedi bod yn ffeit o'r dechrau” wrth i Bob ddechrau ei driniaeth ar gyfer y cyflwr.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn gweithio gyda grwpiau arbenigol i gefnogi cleifion.

“Mae wedi bod yn ffeit i gael unrhyw fath o bositifrwydd," meddai Lowri. 

“Mae digon o bobl yn gweutho ni shwt ma' marw, ond neb yn helpu Bob i fyw.

"Ma' 'na wahaniaeth mawr rhwng darpariaeth yn yr Alban ac yn Lloegr i'r hyn 'da ni yn cael yng Nghymru ar hyn o bryd” yn ôl Ms Davies.

Dywedodd Sian Guest ar ran y Gymdeithas yr MND fod angen "rhywun sy'n canolbwyntio ar MND a ma' ishe ni neud hynny'n gyflym, s'dim lot o amser gyda pobl. 

"Unwaith bo' nhw'n cael y diagnosis, ma' tua triniaeth o bobl yn marw o fewn dwy flynedd o gael i diagnosis felly s'dim amser gyda nhw i aros."

Bydd teulu a ffrindiau Bob nawr yn ymgymryd â her arall i godi ymwybyddiaeth. 

Dywedodd mab Bob, William Gledhill, ei bod hi'n "bwysig iawn bo' ni'n codi ymwybyddiaeth ac arian os ma'n bosib i dalu am fwy o ymchwil mewn i'r clefyd.

"I ddechrau, ni'n mynd i fod yn cerdded lan Ben Nevis, wedyn seiclo i Scafell a dringo Scafell ac yna seiclo o Scafell i'r Wyddfa a dringo'r Wyddfa. 

"Fi'n credu ma' fe'n bwysig iawn hyrwyddo'r neges bod angen ymchwil pellach mewn iddo fe fel bod gobeithio yn y dyfodol bydd teuluoedd ddim yn gorfod dioddef yr un ffordd ag yden ni a bod rhyw fath o driniaeth ar gael. 

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "parhau i weithio gyda grwpiau arbenigol a byrddau iechyd i sicrhau bod pobl sydd a chyflyrau niwrolegol yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnyn nhw."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.