Gŵyl Glastonbury yn dychwelyd ar ôl tair blynedd
Bydd Gŵyl Glastonbury yn dychwelyd ddydd Mercher wedi tair blynedd, ond bydd pobl yn wynebu heriau i gyrraedd yn sgil y streiciau ar y rheilffyrdd yr wythnos hon.
Bydd yr ŵyl yn dathlu ei phenblwydd yn 50 oed ar ôl gorfod gohirio ddwywaith yn sgil y pandemig.
Ymysg y perfformwyr sy'n perfformio mae Syr Paul McCartney, Billie Eilish a Kendrick Lamar yn ogystal â band Adwaith ddydd Sadwrn.
Er hyn, mae'r streic rheilffyrdd yn golygu y bydd llawer o bobl yn cael trafferthion i gyrraedd y maes yn Pilton.
Bydd miloedd o weithwyr ar streic ddydd Iau a dydd Sadwrn ond mae oedi yn debygol ar y rhwydwaith drwy gydol yr wythnos.
Mae Great Western Railway wedi cadarnhau y bydd eu gwasanaethau nhw rhwng Gorsaf Paddington yn Lludain a Castle Cary ger yr ŵyl yn parhau.