Menyw wedi ei hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yng Nghastell Newydd Emlyn
Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio wedi gwrthdrawiad ar Ffordd y Coleg yng Nghastell Newydd Emlyn ddydd Llun.
Mae menyw 70 oed yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn y gwrthdrawiad.
Fe wnaeth y fenyw gael ei chludo mewn hofrennydd i'r ysbyty ac roedd yn rhaid i fenyw arall 50 oed fynd i'r ysbyty yn sgil man anafiadau hefyd, wedi i gerbyd Honda du eu taro.
Mae gyrrwr y car, menyw 64 oed, wedi ei harestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol drwy yrru yn beryglus, ac mae hi wedi ei rhyddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20220620-283.
Llun: Google