Rheolau llymach i chwaraewyr sy'n profi cyfergyd mewn rygbi proffesiynol
Fe fydd y rhan helaeth o chwaraewyr rygbi proffesiynol sydd wedi cael cyfergyd yn gorfod methu'r gêm ganlynol yn dilyn newid i'r rheolau.
Yn y dyfodol bydd rhan fwyaf o chwaraewyr yn gorfod rhoi'r gorau i chwarae am o leiaf 12 diwrnod wedi'r gyfergyd, a'r cyfnod byrraf tan i chwaraewr fedru dychwelyd i'r cae fydd saith diwrnod.
Fe fydd unrhyw chwaraewr sy'n gymwys i ddychwelyd i chwarae ar seithfed diwrnod yr anaf ond yn gwneud hynny yn dilyn caniatâd ymgynghorydd cyfergyd annibynnol.
Bydd y newidiadau yn dod i rym o 1 Gorffennaf wedi i Rygbi'r Byd dderbyn argymhellion y Gweithgor Cyfergyd annibynnol.
Mae ymgyrchwyr wedi croesawu'r cyhoeddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Rygbi Blaengar: "Ers sefydlu yn Chwefror 2021 mae Rygbi Blaengar wedi lobïo er mwyn i'r protocol Dychwelyd i Chwarae elît gael ei ymestyn i o leiaf 12 diwrnod.
"Roeddwn ni yn awyddus iawn i warchod chwaraewyr gydag ymennydd wedi'i niweidio rhag dychwelyd i'r cae'r penwythnos canlynol."
Llun: Asiantaeth Huw Evans