'Ni wnaeth y Celtiaid erioed fodoli' medd yr awdur Simon Jenkins

Mae awdur a cholofnydd wedi dadlau nad oedd y fath beth a Cheltiaid erioed yn bodoli, dim ond cenhedloedd unigol yng Nghymru, yr Alban ag Iwerddon.
Yn ei lyfr 'The Celts: A Sceptical History' dywed Simon Jenkins fod gwaddol diwylliannau Celtaidd yn parhau yn ieithoedd y gwledydd hyn, ond na fu erioed un pobl mewn hanes oedd yn ystyried eu hunain yn Geltiaid.
Ychwanegodd mai syniad lled ddiweddar yw'r cysyniad o Geltiaid, ac un ddaeth allan o astudiaethau academaidd a ieithyddol o'r 17eg ganrif ymlaen.
Dywed hefyd fod angen i Loegr ddangos rhagor o ddealltwriaeth a pharch ar hanes eu cymdogion os oedd y DU i barhau i'r dyfodol.
Darllenwch ragor yma.